Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/506

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mr. Morgan yn cymharu sefyllfa yr achos y flwyddyn hono â'r hyn ydoedd yn y flwyddyn 1850, sef ugain mlynedd yn flaenorol, o ran rhif yr eglwysi a'r aelodau ynddynt, yn gystal a gweithgarwch yr eglwysi yn eu casgliadau, er gweled y cynydd mawr oedd wedi cymeryd lle; ac y mae y rhan fwyaf o lawer o'r anerchiad yn cynwys hanes y fugeiliaeth eglwysig. Nis gellir cael dim byd rydd well oleuni ar sefyllfa pethau fel yr oeddynt y pryd hwnw, felly rhoddwn ef yma yn llawn, -oddieithr ychydig fanylion am y rhifedi a'r casgliadau:—

ANERCHIAD

Ar Sefyllfa yr Achos Methodistaidd yn y Rhan Orllewinol o Sir Feirionydd, Mehefin, 1870.

GAN Y PARCH. E. MORGAN.

"Yr ydwyf, ar gais Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, yn codi i roddi ychydig o hanes yr achos yn yr eglwysi a berthynant i'r Cyfarfod Misol hwn. Y mae hyn yn cael ei wneuthur yn fynych, os nad bob amser, yn Nghymdeithasfaoedd y Deheudir; ac nid anfuddiol i ninau a fyddai dilyn ein brodyr yn yr arfer dda hon. Yr wyf yn credu fod genym rai ffeithiau mewn cysylltiad â'r achos yn y rhan hon o'r sir y byddai yn dda i'r wlad eu gwybod............. Y mae y fugeiliaeth yma er's ugain mlynedd a mwy; a chyda chaniatad y Gymdeithasfa, dymunwn ddweyd gair am ei hansawdd yn ein plith, fel y galler gosod y llwyddiant a'r fugeiliaeth y naill ar gyfer y llall. Y mae yn perthyn i'r Cyfarfod Misol wyth ar hugain o deithiau Sabbothol, o ba rai y mae ugain o dan ofal bugeiliaid cyflogedig. Y mae gweinidogion yn byw mewn pump o'r teithiau eraill, ac y mae yn dda genyf fedru dwyn tystiolaeth am fy mrodyr; er nad ydynt yn derbyn tâl fel y bugeiliaid, eto y maent yn cyflawni eu gwaith mor ffyddlawn, hyd y goddef eu hamgylchiadau, a'r rhai sydd yn derbyn cyflog sef-