Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/507

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ydlog. A ydyw eu heglwysi yn ymddwyn yn deilwng tuag atynt, sydd gwestiwn na pherthyn i mi yn y fan hon geisio ei ateb. Tra nad ydwyf yn awgrymu y buasai dim diffyg ffyddlondeb yn fy mrodyr hyn, rhaid i mi gael dweyd hyn, fod bugeiliaeth wedi enill y fath safle yn y sir, ac wedi unioni syniadau yr eglwysi am gysylltiad gweinidog a'r eglwys, a'i ddyledswydd tuag ati, fel nad all unrhyw bregethwr sydd yn dilyn masnach aros yn ei siop neu yn ei feusydd ar noswaith y cyfarfod eglwysig heb fod ymholiad manwl yn cael ei wneuthur yn ei gylch; a phe digwyddai iddo fod yn absenol am dri chyfarfod eglwysig, nid diberygl a fyddai i'r eglwys yn y pedwerydd ei alw i gyfrif, os nad son am ei ddiarddel. Y mae yma ddeunaw o fugeiliaid cyflogedig, a rhai o honynt er's llawer o flynyddoedd. Y mae yma dair ar ddeg o eglwysi gweiniaid o dan ofal bugeiliaid. Y mae y cryf a'r gwan yn cael eu diwallu, ond ni buasai modd diwallu y gweiniaid oni bai fod yr eglwysi cryfion wedi cael bugeiliaid. Yn nghysgod yr eglwysi cryfion y mae yr eglwysi gweiniaid yn cael byd da, helaethwych beunydd. Ni oddef amser i mi ond yn unig hysbysu y ffaith, heb egluro dim pa fodd y mae y cymorth yn cael ei roddi. Goddefer i mi ddweyd yma, er calonogi lleoedd eraill, mai nid am nad oedd rhwystrau ar y ffordd y llwyddodd bugeiliaeth yn Sir Feirionydd. O'r pen Dwyreiniol i'r sir y daeth y goleuni ar hyn, fel ar lawer peth arall, i'r pen Gorllewinol. Ac yr oedd y gwrthddadleuon a ddygir mewn siroedd eraill ymlaen yn awr yn erbyn bugeiliaeth yn cael eu dwyn ymlaen yma er's ugain mlynedd; ond siaredid a dadleuid y pwnc yn ein plith yn y Cyfarfodydd Misol, ac nid rhedeg gyhoeddi pob mympwy a syniad amrwd arno yn y papyrau newyddion, fel y gwneir gan lawer o rai yn awr, na wyddant bron ddim am yr hyn y maent yn dadleu yn ei gylch. Bu genym ninau frwydrau yn achos y fugeiliaeth, na anghofir yn fuan y manau yr ymladdwyd hwynt. Fel y mae Waterloo a