Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/508

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Trafalgar yn cael eu cofio ynglyn â'r brwydrau a fu yno, felly fe gofir am Dowyn a'r Gwynfryn, a manau eraill, ynglyn â brwydrau y fugeiliaeth. Ac er fod drwg deimlad yn cael ei gynyrchu am ychydig yn y brwydrau hyn, eto gan mai brodyr oedd yn dadleu, a chan mai chwilio am wirionedd yr oeddis, buan iawn y collid y teimlad yna yn y llawenydd cyffredinol am ddarganfyddiad y gwirionedd hwnw.

"Dechreuodd achos y fugeiliaeth yn wanaidd iawn yn ein plith, ond ymledodd yn raddol, a llwyddodd, nes enill ei sefyllfa bresenol. Gadawyd rhyddid perffaith i'r eglwysi i ddewis y neb a fynent, a bu agos i hyn fod yn fagl iddi, am i'r eglwysi ddewis rhy ychydig o bersonau, ac felly feichio y rhai hyny â mwy o waith nag y gallent ei gyflawni; ond gadawyd iddynt, gan gwbl gredu y deuai pethau yn fuan i'w lle os na roddid troed ar yr un egwyddor,-ac felly y bu. Erbyn heddyw, ni raid i'r fugeiliaeth yn y sir hon wrth lythyrau canmoliaeth gan neb. Y mae llawer iawn o draethu ac ysgrifenu yn ei herbyn hi yn awr, ond y mae pob gwrthddadl a ddygir yn ei herbyn yn cael eu hateb gan ffeithiau yn hanes bugeiliaeth y sir hon. Un peth a roddir yn ei herbyn ydyw, ei bod hi yn newid Methodistiaeth. Ond ai felly y mae y peth? Os Methodistiaeth ydyw cydymdeimlo a chydweithredu yna nid oes dim gwell Methodistiaid mewn un rhan o Gymru nag sydd yn Sir Feirionydd. Fel prawf o hyn, edrycher ar lafur yr eglwysi. Nid oedd ond chwech o eglwysi bychain heb wneyd casgliad tuag at Drysorfa y Gweinidogion; ond mewn sir arall oedd yn lled wrthwynebol i'r fugeiliaeth, yr oedd cynifer ag wyth ar hugain o eglwysi nad oeddynt wedi gwneyd casgliad at y Drysorfa hono. Nid ydoedd ond un eglwys yn Sir Feirionydd heb wneyd casgliad at yr achosion cenhadol; ond mewn un sir yn Ngogledd Cymru, lle nad oedd y fugeiliaeth mor flodeuog, yr oedd tair a deugain heb wneyd casgliad at y Genhadaeth Dramor, a phedair ar bymtheg ar