Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/509

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hugain heb wneyd casgliad at y Genhadaeth Gartrefol. Ond y mae yn rhaid cofio mai er pan ddaeth y fugeiliaeth i'r sir hon y mae hithau wedi bod mor weithgar gyda'r cenhadaethau. Ugain mlynedd yn ol, yr oedd yma ddwy ar bymtheg o eglwysi heb wneuthur y casgliad cenhadol.

"Peth arall a roddir yn erbyn bugeiliaeth ydyw, ei bod hi yn difa arian yr eglwysi, fel na bydd ganddynt ddim at bethau eraill. Camgymeriad ydyw hyn eto. Y gwirionedd ydyw, mai y fugeiliaeth sydd wedi dysgu yr eglwysi i fod yn hael at bobpeth. Ugain mlynedd yn ol, nid oedd yma 'na chyflog i ddyn na llôg am anifail.' Gellwch chwi wenu wrth fy nghlywed i yn dywedyd hyn, ond geiriau gwirionedd a sobrwydd ydynt. Pam' swllt y Sabbath oedd y swm mwyaf a gefais i gan ein heglwysi cryfaf cyn i fugeiliaeth gychwyn, a llai na hyny yn aml. Bum yn dyfod i Ddolgellau am rai blynyddoedd am bum' swllt y Sabbath. Yr oedd hyny, wrth gwrs, o dan yr hen oruchwyliaeth; ac yr wyf yn rhyfeddu weithiau wrth glywed am frodyr yn rhoddi hyn yn erbyn y fugeiliaeth sydd wedi medi llawer o'i ffrwyth hi yn hyn o beth: 'A gasgl rhai rawnwin oddiar ddrain?' Ac a gaf fi ofyn yn y fan hon, a ydyw pob lle sydd heb fugeiliaeth yn enwog am eu cyfraniadau i weinidogion? Y mae rhywbeth heblaw y fugeiliaeth yn difa arian rhai o honynt. Gwn am un gweinidog wedi bod mewn Cymdeithasfa yn un o'r lleoedd nad oes fugail iddynt. Diacon neu ddiaconiaid oedd yn llywodraethu; ac er i'r gweinidog wneuthur yr oll a allai, eto am nad oedd ei allu yn cyfateb i ddymuniadau y llywodraethwyr, bu raid iddo dalu 25s. am ddyfod yno!

"Y mae bugeiliaeth wedi creu cymaint o haelioni, fel y goddef eglwysi gwlad fynyddig a thlawd, ar lawer cyfrif, fel Meirionydd, ei chymharu âg eglwysi mawrion a chyfoethog y Corff. Nifer aelodau Liverpool ydyw, 4,160; swm y casgliadau oedd 5330p. 12s.; y mae hyn dros 25s. yr aelod. Nifer