Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/510

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

aelodau Gorllewin Meirionydd ydyw 5513; cyfanswm y casgliadau oedd 7708p. 12s.; y mae hyn dros 27s. Nid wyf yn sicr a ydyw yr eisteddleoedd a'r tai i lawr yn nghyfrif Liverpool; os felly, rhaid eu tynu allan o gyfrif Meirionydd. Bydd hyny yn tynu y swm i lawr o 27s. yr aelod i 23s. Ond os ychwanegir at hyn y swm a wneir at Gymdeithas y Beiblau (fe gyfrifir y casgliad hwn gan Liverpool), bydd cyfraniadau Meirionydd dros 24s. yr aelod. Pe cymerid y gwrandawyr yn lle yr aelodau, tynai hyny y swm ychydig i lawr. Nid er mwyn gwag ymffrost yr wyf yn nodi y pethau hyn, ond i ddangos fod eglwysi y sir yn cael eu gwneuthur yn ffrwythlawn gan rywbeth. Pe dywedwn i gan beth, gwyddoch oll beth fyddai hwnw. Ond mi ddywedaf yn hytrach, bydded y gwrthwynebwyr yn farnwyr, a rhoddent hwy yr achos.

"Peth arall a roddir yn erbyn bugeiliaeth ydyw, ei bod yn cymeryd yr awdurdod o ddwylaw y blaenoriaid. Ond nid felly y mae yn y sir hon. Ni bu blaenoriaid erioed yn fwy eu gallu a'u dylanwad yma nag ydynt yn awr, ie, ni buont erioed fel dosbarth mor barchus ag ydynt yn awr, nac ychwaith mor weithgar. Chwanegu eu gwaith, ac nid ei leihau, a wnaeth bugeiliaeth. Ond y mae hyn yn bod, nis gall neb o hyn allan ddyfod yn ben blaenor yn y Cyfarfod Misol. Y maent oll yn gydradd o ran awdurdod; ac nis gall neb o'r bugeiliaid fyned yn esgob yno. Fe gaiff y blaenor galluog a'r pregethwr galluog eu lle eu hunain yn yr eglwys ac yn y Cyfarfod Misol; ond nis gall y naill na'r llall o honynt fod yn ddictator. Y mae y llywodraeth yn un gonstitutional. Dichon fod ambell flaenor yn ein mysg eto heb gydymdeimlo â'r fugeiliaeth, ond nis gwn pwy ydynt; a phe byddai i mi felly ddweyd gair yn eu herbyn, ai teg ei barnu hi wrth opiniwn un dyn, ac nid wrth y ffeithiau a nodais eisoes?

"Y mae bugeiliaeth yn y sir hon wedi profi y gall dau beth gyd-hanfodi y tybid nad ydoedd yn bosibl i hyny fod, sef