Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/511

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

annibyniaeth pob eglwys, a'r berthynas a'r undeb agosaf rhwng yr eglwysi hyn â'u gilydd. Mewn rhai siroedd, lle nad oes bugeiliaeth, mae'r eglwysi mor annibynol fel nad ymostyngant i unrhyw benderfyniad o eiddo'r Cyfarfod Misol, os na bydd yn gydnaws â'u teimlad. Mewn siroedd eraill, y mae'r eglwys unigol yn cael ei cholli yn y lliaws, ac felly collir y teimlad o gyfrifoldeb personol yr eglwysi, a chollir dylanwad cymhelliad cryf iawn i weithgarwch. Yn y sir hon y mae'r eglwysi, heb bron eithriad, yn cario allan benderfyniadau y Cyfarfod Misol a'r Gymdeithasfa, er eu bod yn gyfrifol eu hunain am eu dyledion, ac am bob peth angenrheidiol i gario yr achos ymlaen yn eu plith. Os gofynir i ni pa fodd y dygwyd bugeiliaeth i'w stâd bresenol, a pha gynllun oedd genym, fy ateb ydyw, nad oedd genym yr un o'r eiddom ein hunain. Y gwirionedd ydoedd, er, feallai, ei fod yn ychydig o ddarostyngiad i ni ei gyfaddef, nad oedd genym nemawr o ddynion original—o ddynion gwreiddiol—yn ein plith ugain mlynedd yn ol. Oblegid hyn, bu raid i ni fabwysiadu cynllun y digwyddodd i ni daro wrtho mewn hen Lyfr a ysgrifenwyd er's tua 1800 o flynyddoedd yn ol. Yr wyf wedi clywed fod rhai digon gwreiddiol mewn rhai siroedd i ddyfeisio cynllun newydd, ond rhaid i mi gyfaddef mai lladrata ein cynllun a wnaethom ni. Ac er fod y plan yn hen, nid ydoedd yn rhy hen i weithio; ac y mae yn debyg mai boddloni ar hwn a wnawn tra y pery i weithio mor rhagorol. Nodaf un neu ddwy o'i hegwyddorion.

"Yn gyntaf,—Nad ydoedd y fugeiliaeth yn cael ei sefydlu er mwyn un dyn, nac er mwyn un dosbarth o ddynion. Ni sefydlwyd mo honi er mwyn hen bregethwyr, nac er mwyn pregethwyr ienainc, ond yn unig er mwyn ymgeleddu yr eglwysi. Ein cred ni ydyw, fod y pregethwyr wedi eu gwneuthur er mwyn yr eglwysi, ac nid yr eglwysi er mwyn y pregethwyr, a chariwyd hona allan yn llythyrenol.