"Yr ail egwyddor ydoedd, Fod hawl gan bob eglwys i ddewis ei bugail ei hunan. Un o ragorfreintiau mwyaf gwerthfawr eglwys ydyw hon, a dylai wylio yn ddyfal rhag i neb ei hysbeilio o honi. Ac nid heb synu y byddaf yn darllen llythyrau ambell ddiacon yn y papyrau newyddion, sydd newydd gael ei ddewis ei hun felly i'w swydd, ond a fynai ysbeilio yr eglwys o'r hawl i ddewis ei bugail, gan haeru ei bod yn rhy ddibrofiad a digrefydd i gael y fath ymddiried. Gobeithio yr wyf mai nid yn ei etholiad ef ei hun i swydd y cafodd ef y prawf o hyn. Ein cred ni ydyw, nad oes a fyno y Cyfarfod Misol ddim â hyn, ond yn unig arolygu ei symudiad, i edrych fod pob peth yn cael ei ddwyn ymlaen yn deg. Felly y mae y Cyfarfod Misol hwn wedi ymddwyn, heb ymyryd dim â rhyddid yr eglwysi i wrthod bugeiliaeth o gwbl, os mynent, neu i ddewis y neb a ewyllysiant i'r gwaith. Y mae ein bugeiliaid presenol ni yn brawf o'r hyn yr wyf yn ei ddweyd. Dewiswyd wyth o honynt o'r Cyfarfod Misol hwn, pump o'r parth arall o'r sir, dau o Sir Drefaldwyn, dau o Sir Gaernarfon, ac un o Sir Fflint.
"Peth arall a effeithiodd er llwyddiant bugeiliaeth yn ein plith ydoedd, na sefydlwyd yma yr un Divorce Court. Sefydlwyd y cyfryw lys yn Ffrainc tua diwedd y ganrif ddiweddaf, i wrando ar bob achwyniad mympwyol a allai fod gan y gŵr yn erbyn ei wraig, &c.; a'r canlyniad oedd, fod cymaint o ysgariadau mewn blwyddyn ag ydoedd o briodasau. Ond nid oedd y llys hwnw ddim wedi ei agor eto yn Sir Feirionydd, onidê y mae yn debyg y buasai wedi cael ychydig o waith. Yr wyf yn gwybod fod y bugeiliaid yn gwneyd aml gamgymeriad; onid ydyw pawb yn eu gwneyd? Pan ddaw bugail gyntaf i'r eglwys, fe ddisgwylir iddo wneuthur gwyrthiau; ond y mae y cariad cyntaf yn oeri ychydig pan y deuir i deimlo nad ydyw y bugail ond dyn ar y goreu; a phe buasai genym Lys Ysgariaeth yn y cyfwng yna, y mae yn debyg y