Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/521

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

aelodau y pwyllgor i fyned allan o'u swydd bob blwyddyn, a dau eraill i gael eu penodi yn eu lle. Wedi i'r pwyllgor gyfarfod amryw weithiau, cyflwynwyd i'r Cyfarfod Misol, a gynhaliwyd yn Maentwrog Uchaf, Medi 4ydd a'r 5ed, 1876, y penderfyniadau canlynol, y rhai a fabwysiadwyd yn unfrydol.

ARHOLIAD

Mewn cysylltiad a'r Ysgol Sabbothol o fewn cylch Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd.

1. Fod Arholiad Cyffredinol, perthynol i'r Cyfarfod Misol, i gael ei gynal unwaith yn y flwyddyn, ar un o Bynciau Athrawiaethol crefydd. 2. Fod yr Arholiad hwn i gael ei ddwyn ymlaen mewn ysgrifen, ar ddull yr Arholiad Cymdeithasfaol. 3. Fod arholwr i gael ei benodi bob blwyddyn gan y Cyfarfod Misol. 4. Fod yr arholwr i anfon copiau o'r cwestiynau i bob lle yr anfonir amdanynt. 5. Fod gofal yr arholiad yn y lle ar y gweinidog ac un o'r diaconiaid, pa rai sydd i ofalu am anfon yr atebion i'r arholwr. 6. Fod y mater yn cael ei hysbysu yn Nghyfarfod Misol Awst; yr atebion i fod yn llaw yr arholwr y dydd cyntaf o Ebrill; ac enwau y buddugwyr i'w cyhoeddi yn Nghyfarfod Misol Mai. 7. Fod yr arholiad i gael ei gynal ymhob lle ar yr un dydd, a bod hyd yr eisteddiad i'w benodi gan yr arholwr. 8. Fod 5p. o wobr i'r goreu; 2p. i'r ail; 1p. i'r trydydd. Mater yr arholiad y flwyddyn gyntaf ydoedd, "Cyfiawnhad." Y Parch. R. Roberts, Dolgellau, yn arholwr.

Argraffwyd y penderfyniadau hyn yn slips, ac anfonwyd hwy i arolygwyr, athrawon, ac athrawesau yr ysgolion. Dyma ddechreuad yr arholiad blynyddol sydd erbyn hyn wedi dyfod yn sefydliad mor bwysig yn y sir, ac yn y wlad yn gyffredinol. Gwnaethpwyd amryw o gyfnewidiadau yn y rheolau o bryd i bryd, y rhai a gyhoeddir gyda'r materion yn flynyddol. Rhoddwyd y rhai cyntaf i mewn yma, er mantais i weled pa