fodd yr oedd pethau yn y cychwyn gyda hyn. Swm y gwobrwyon ar y cyntaf oedd yr hyn a dderbynid yn llogau oddiwrth yr arian crybwylledig adawsid at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol. Ond cynyddodd y treuliau yn fuan gryn lawer yn fwy na'r derbyniadau. Ac i'r amcan o chwyddo y 150p. a dderbyniasid ar y cyntaf, gwnaethpwyd ymdrech amser yn ol, trwy lafur ysgrifenydd y Pwyllgor, y Parch. G. C. Roberts, y pryd hwnw o Faentwrog, i gasglu swm ychwanegol o arian. Er hyny, prin y cyrhaedda y swm a dderbynir yn flynyddol i haner y treuliadau yr eir iddynt gyda'r arholiad, ac hyd yma gwneir y gweddill i fyny o 'drysorfa y Cyfarfod Misol. Y mae nifer Pwyllgor Sirol yr Ysgol Sabbothol gryn lawer yn lliosocach nag yr oedd yn y dechreu. Cyfaddasir yr arholiad y blynyddoedd diweddaf i gyfateb i'r Meusydd Llafur a drefnir gan Bwyllgor Undeb yr Ysgolion Sabbothol. Hyd yn ddiweddar, defnyddiai yr holl ymgeiswyr yn yr arholiad ffugenwau wrth eu cynyrchion. Nid oedd pawb yn cydweled am y priodoldeb o wneuthur felly, a bu cryn lawer o ddadleu o berthynas i newid y drefn. Yn awr rhydd pawb eu henwau priodol eu hunain wrth eu hatebion. Wedi mabwysiadu y drefn hon, penodir arholwyr o'r tuallan i gylch y Cyfarfod Misol, tra y gwnelid y gwaith yn flaenorol yn rhad gan weinidogion ac eraill o'r sir ei hun. Yn ddiweddar, hefyd, mae y gwobrwyon wedi myned trwy gwrs o gyfnewidiad, fel ag i gyraedd i nifer liosocach. Ac er nad yw rhif yr ymgeiswyr yn yr arholiadau hyn yn fawr, y mae wedi cynyddu llawer rhagor y bu. A ganlyn ydyw rhestr y buddugwyr ynghyd â'r gwobrau o'r dechreuad hyd eleni:—
1877.
1. Mr. Hugh Pugh, Llanegryn, 5p. 2. Miss Ellen Davies, Hafodycoed, Gwynfryn, 2p. 3. Mr. Griffith Evans, Croesor, 1p.