Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/526

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD VI.

CYNHADLEDD CAN'MLWYDDIANT YR YSGOL SABBOTHOL YN NOLGELLAU, 1885.

CYNWYSIAD—Aelodau y Gynhadledd—Y Pwyllgor yn cael ei gryfhau—Y Safonau yn dyfod i weithrediad—Y Can'mlwyddiant yn foddion deffroad gyda gwaith yr Ysgol Sul—Pethau ymarferol yn cael eu dwyn i sylw—Amcan y Gynhadledd—Trefnlen y Gynhadledd—Y pethau a barodd ei llwyddiant—Rhan gerddorol y Gynhadledd—Adroddiad o Weithrediadau yr Wyl.

 R oedd dydd Gwener, Mai 22ain, 1885, yn ddydd o gryn bwysigrwydd yn Sir Feirionydd, oblegid y diwrnod hwnw cynhelid Cynhadledd arbenig o bregethwyr, blaenoriaid, swyddogion, athrawon ac athrawesau, a chynrychiolwyr yr Ysgolion Sabbothol, ynghyd â phawb oedd yn teimlo dyddordeb yn y sefydliad o fewn cylch Cyfarfod Misol y rhan orllewinol o'r sir. Ganol haf, y flwyddyn hono, cynhaliwyd Cymanfaoedd lliosog yn y gwahanol ddosbarthiadau, er gwneuthur coffa am ddechreuad y sefydliad yn Nghymru, am yr oll o ba rai y rhoddwyd adroddiad mwy neu lai helaeth mewn cysylltiad â phob dosbarth ar ei ben ei hun. Yr oedd i'r Gynhadledd, yr hon a gynwysai y goreuwyr o bob rhan o'r cylch, amcan mwy cyffredinol. A phe yr elid heibio, heb wneuthur crybwylliad byr am dani, byddai un linc bwysig yn nghadwen yr hanes yn ngholl. Gwnaeth y deffroad a gymerodd le yn amser y Can'mlwyddiant les dirfawr mewn llawer ffordd. Y flwyddyn flaenorol, cryfhawyd Pwyllgor yr