Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/527

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ysgol Sabbothol yn y sir hon trwy chwanegu at ei nifer, fel y byddai iddo wneuthur trefniadau ar gyfer yr amgylchiad. A'r canlyniad a fu i'r dynion a roddwyd yn y swydd dori allan lawer o waith i ateb i'r amseroedd. Y pryd hwn y trefnwyd ac y mabwysiadwyd y Safonau yn yr ysgolion. Yn ol yr hen drefn, yr oedd pawb yn benrhydd, ac at eu dewisiad i gymeryd eu cynllun eu hunain i addysgu y plant, ac yn fynych iawn ni chymerid cynllun yn y byd, ond elid ymlaen wrth synwyr y fawd, mewn llawer o aflerwch a difaterwch. Gwelliant ydyw y cynllun, sydd wedi dyfod i arferiad yn ddiweddar, ar yr hen beirianwaith oedd yn bod yn Nghymru er's can' mlynedd, trwy yr hwn y credir y daw y naill dô ieuanc ar ol y llall ymlaen yn gyflymach mewn gwybodaeth, ac y gwreiddir hwy yn fwy trwyadl yn yr hyn a ddysgant. Cymerodd Pwyllgor yr Ysgol Sabbothol, y flwyddyn a nodwyd, lawer o drafferth ac amser i berffeithio y cynllun hwn. Cymerwyd mantais ar y Can'mlwyddiant i ledaenu nifer o Eiriadur Ysgrythyrol Mr. Charles ymysg deiliaid yr ysgolion. Sefydlwyd llyfrgelloedd, mewn rhai manau, yn gysylltiedig â'r capeli. Bu ymgais mwy neu lai llwyddianus i wella y Cyfarfodydd Ysgolion. Rhoddwyd anogaethau i ffurfio cyfarfod arbenig ymhob ardal, er mwyn disgyblu a chymhwyso yr athrawon i gyflawni eu gwaith yn briodol. Dygwyd i sylw, a chafwyd trafodaeth gyhoeddus yn yr Ysgolion Sul ar amryw bynciau ymarferol, megis "Cadw y Sabbath," Iawn ymddygiad yn moddion gras, "Geirwiredd," "Gonestrwydd," "Iaith anweddus," &c. Helaethwyd y gwobrwyon yn yr arholiadau, a phenderfynwyd rhoddi tystysgrifau i bawb fyddo wedi enill haner y marciau yn y gwahanol ddosbarthiadau yn yr Arholiad Sirol. Ffrwyth wedi tyfu o'r Can'mlwyddiant ydyw "Undeb Ysgolion Sabbothol Methodistiaid Gogledd a Deheudir Cymru."

Ond yr hyn y gofynir sylw arno yn y fan hon ydyw, Cynhadledd Ysgolion Sabbothol Gorllewin Meirionydd, a