Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/529

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr Ysgol Sabbothol." I wneyd sylwadau pellach Parchn. G. Ceidiog Roberts, R. H. Morgan, M.A., ac Elias Jones.

CYFARFOD YR HWYR AM 6 O'R GLOCH.

LLYWYDD PARCH. R. ROBERTS, DOLGELLAU.

Traddodwyd anerchiadau ar y materion canlynol:—

1. "Y gwersi y gellir eu dysgu oddiwrth hanes cychwyniad yr Ysgol Sabbothol," gan y Parchn. D. Jones, Garegddu, a W. Jones, Trawsfynydd.

2. "Perthynas yr Ysgol Sabbothol a moesau ein gwlad," gan y Parchn. W. Jones, Penrhyn, a S. Owen, Tanygrisiau.

3. "Y cysylltiad sydd rhwng yr addysg deuluaidd a'r Ysgol Sabbothol," gan y Parchn. D. Davies, Abermaw, a T. J. Wheldon, B.A.

Cynhaliwyd y cyfarfodydd yn ol y drefn uchod, a chan y personau a nodwyd, oddieithr ychydig o eithriadau. Gwahoddid dau gynrychiolydd o bob ysgol yn y cylch, ac yr oedd cynrychiolaeth gyflawn yn bresenol, heblaw lliaws o weinidogion, a blaenoriaid, a charedigion yr Ysgol Sul o bob parth o'r sir. Gwnaeth cwmnïau y rheilffyrdd drefniadau cyfleus, er hwylusdod i'r dieithriaid; ac yn ol caredigrwydd arferol cyfeillion Dolgellau, yr oedd ymborth wedi ei ddarparu yn rhad gan ysgolion y Methodistiaid yn y dref, yn yr ystafelloedd cysylltiedig â chapel Salem.

Cytunai pawb a roddodd eu presenoldeb yn y Gynhadledd i ddwyn tystiolaeth i'w llwyddiant a'i heffeithiolrwydd, ac i ddywedyd mai da oedd bod ynddi. Trodd y trefniadau allan yn rhai hwylus a dehenig, a chafwyd arwyddion fod cryn lawer o ddylanwad yn dilyn pobpeth a ddywedid ar y materion fuont dan sylw yn ystod y dydd. Cydgyfarfyddai lliaws o bethau i beri fod cyfarfodydd y Gynhadledd yn rhai mwy arbenig na chyfarfodydd cyffredin. Gwnaethid darpariadau helaeth a phrydlon ymlaen llaw; daeth ynghyd liaws o bobl oreu y