Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/530

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wlad, yn feibion a merched; crewyd disgwyliadau uchel yn meddyliau pawb, oherwydd fod yr amgylchiadau a roisant fôd i'r cyfarfodydd yn rhai na ddigwyddant ond unwaith mewn oes; yr oedd lliaws y gwrandawyr wedi eu meddianu, fwy neu lai, gan fyfyrdodau ar y pethau a fu ymhell yn ol, ac ar y pethau a fydd ymhell ymlaen. Tueddai pobpeth allanol yn ffafriol i gael cyfarfodydd llwyddianus. Yr oedd yr holl faterion hefyd y cafwyd trafodaeth arnynt, yn y cyntaf, yr ail, a thrydydd eisteddiad y Gynhadledd, y rhai mwyaf pwrpasol y gallesid meddwl am danynt, gan eu bod yn cyffwrdd â bywyd yr ysgol, ac â bywyd crefydd yn y wlad. Rhoddwyd diwrnod cyfan i draethu ar y pynciau canlynol-athrawiaethau crefydd, y Cyfarfodydd Ysgolion, yr holwyddori cyhoeddus, y ffordd fwyaf effeithiol i gyfranu addysg, y gwersi oddiwrth hanes cychwyniad yr Ysgol Sabbothol, y cysylltiad rhwng yr ysgol â moesau y wlad, ac âg addysg deuluaidd; a diameu na threuliwyd diwrnod yn y sir erioed gyda materion mwy pwysig. Cafwyd prawf fod y gwirioneddau yn cydio yn y siaradwyr, a'u bod hwythau, mewn canlyniad, yn cydio yn y gwrandawyr. Yr oedd rhai o'r areithiau yn cael eu nodweddu gan "feddyliau yn anadlu a geiriau yn llosgi." Byddai yr hen dadan yn cael eu meddianu gan sel angerddol gyda gwaith yr Arglwydd, Yr oedd y sel a amlygid y diwrnod hwnw yn Nolgellau, beth bynag arall ellid ddweyd am dano, yn sel yn tarddu oddiar wybodaeth, ac oddiar awyddfryd pur i wneuthur coffa am waith y tadau. Rhedai ysbrydiaeth lawer uwchlaw y cyffredin trwy yr oll o'r cyfarfodydd. Gwneid cyfeiriadau mynych at Mr. Charles, a Lewis William, Llanfachreth, fel y rhai fu yn offerynau penaf yn llaw yr Arglwydd i gychwyn yr Ysgol Sabbothol yn Sir Feirionydd, ac nid ychydig o help a roddai y coffhad am eu henwau hwy, i enyn mwy ar y sel a'r brwdfrydedd. Er nad oedd gorymdeithio cyhoeddus yn cymeryd lle y diwrnod hwnw fel yn y Cymanfaoedd a gynhaliwyd y mis di-