Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/531

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lynol, eto, cynyrchodd cyfarfodydd y Gynhadledd deimlad cryf a pharhaus o blaid yr Ysgol Sabbothol. A bydd yr hyn a wnaed drwyddi hi yn aros yn hwy na dim arall er coffhad am flwyddyn gofiadwy y Can'mlwyddiant.

Yn ystod gweithrediadau y dydd canwyd emynau allan o gasgliad oedd wedi ei ddarparu ar gyfer y gynhadledd, o dan arweiniad Mr. Humphrey Jones, arweinydd y canu yn nghapel Salem, Dolgellau. Chwareuwyd ar yr Harmonium, yn nghyfarfod y boreu, gan Mr. R. R. Williams, Tremhyfryd; yn nghyfarfod y prydnhawn, gan Miss Roberts, Frondirion; ac yn nghyfarfod yr hwyr, gan Mr. Hughie Jones, Plasucha. Trwy gyfarwyddyd, a than nawdd y Cyfarfod Misol cyhoeddwyd adroddiad cyflawn o weithrediadau y Gynhadledd, yn cynwys y papyrau a ddarllenwyd, a'r areithiau a draddodwyd, yn bamphlet arno ei hun, am y pris bychan o dair ceiniog. Y mae amryw ganoedd o hono eto ar law, heb eu gwerthu. Nid yw yn ormod dweyd fod mwy o wybodaeth fuddiol ynddo am waith yr Ysgol Sul, ac am agwedd pethau fel yr oeddynt yn y flwyddyn 1885, nag a geir yn unman arall, mewn can lleied o le. Ni ddylai yr un tŷ yn y sir fod hebddo.