Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/533

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymhelaethu ond myned ar ol manylion. Ond barnwyd yn well yn y ddwy gyfrol ymgadw rhag yr hyn a fuasai yn tynu oddiwrth y dyddordeb cyffredinol a pharhaol, tra yr amcenid peidio esgeuluso dim oedd a phwysigrwydd ynddo. Ar un olwg y mae yn syndod fod cymaint o waith wedi ei wneuthur, a bod cynifer o hanesion i'w hadrodd am un blaid grefyddol, mewn rhan o sir, yn ystod can lleied o amser. Nid oes eto yn llawn saith ugain mlynedd er pan ffurfiwyd yr eglwys gyntaf gan y Methodistiaid yn Ngorllewin Meirionydd, pan y cyfarfyddodd yr wyth enaid yn Mhandy'rddwyryd, ac y cyfenwyd hwy oherwydd eu bod yn wyth o nifer, yn "deulu arch Noah." Ac y mae bron yr oll o'r gweithgarwch a'r cynydd a gofnodir yma wedi cymeryd lle o fewn y can' mlynedd diweddaf. Erbyn dechreu y flwyddyn hon (1890) yr oedd yr wyth enaid wedi cynyddu nes cyraedd o fewn chwech i wyth mil (8000) o eneidiau. Y mae yn gweddu i ni ddweyd yn ngwyneb y fath gynydd fel y genedl gynt, "O'r Arglwydd y daeth hyn; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni."

Y mae ychydig o bethau eto yn teilyngu sylw na ddaethant o fewn cylch yr hanes yn y penodau blaenorol. Un peth ydyw yr ymweliadau â'r eglwysi. Rhan arbenig o waith y Cyfarfod Misol wy y blynyddoedd ydoedd trefnu ar gyfer anghenion yr eglwysi, a gosod ymwelwyr i ymweled â hwy. Dyma yr arferiad ymhlith eglwysi y saint er dechreuad Cristionogaeth. Un o'r pethau a gyfarfyddwn yn fynych yn Llyfr yr Actau ydyw fod yr apostolion yn anfon brodyr o'u plith eu hunain i ymweled â'r eglwysi oedd wedi eu planu yn y gwahanol wledydd. Wedi clywed daarfod i nifer mawr gredu a throi at yr Arglwydd, anfonodd yr eglwys yn Jerusalem Barnabas i fyned hyd Antiochia: "Yr hwn pan ddaeth, a gweled gras Duw, a fu lawen ganddo, ac a gynghorodd bawb oll, trwy lwyr-fryd calon, i lynu wrth yr Arglwydd." Yr ydym yn darllen yn llythyrau ein brodyr, y cenhadon ar Fryniau Cassia, eu bod