Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/534

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwythau yn myned yn fynych ar deithiau i ymweled â'r eglwysi, ac i gadarnhau y dychweledigion yn nghrefydd Crist. Bu adeg ar eglwysi Sir Feirionydd pan yr oeddynt oll o'r bron yn weiniaid ac egwan. Yn ddiweddar daeth i oleuni hanes byr a gafwyd mewn hen Gof-lyfr[1] o eiddo y diacon gweithgar, Mr. Gabriel Davies, y Bala, am ymweliad a wnaethpwyd âg eglwysi y sir pan oedd crefydd yn bur isel ynddi. Fel hyn y dywedir am drefniad y cytunwyd arno gan y brodyr mewn Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn Harlech, Mai, 1817:—

"Barn wyd yn angenrheidiol i ryw frodyr fyned oddiamgylch, i ymweled â holl gymdeithasau y sir, i edrych pa fodd y maent hwy,' oherwydd y cyfnewidiadau sydd wedi cymeryd lle yn nhrefn Rhagluniaeth ar amgylchiadau a bywoliaethau llawer o'r brodyr.-I ymofyn a ydyw yr aelodau, yn yr amser isel, cyfyng hwn, yn glynu wrth yr Arglwydd, yn peidio esgeuluso eu cydgynulliad, yn glynu wrth bob moddion o ras, &c., ac yn dyfod i Swper yr Arglwydd, yn ffyddlawn yn eu cyfraniadau at yr achos yn ol eu gallu: a oes llyfr cyfrif eglur yn cael ei gadw; a ydyw'r achos mewn dyled, a pha beth sy'n peri hyny; a oes dim costau afreidiol; a ydynt yn cadw register o'r rhai a fedyddir; a ydynt yn cadw undeb yr Ysbryd yn nghwlwm tangnefedd. A oes brawd yn barod i ymgyfreithio A brawd,-a ydynt yn ystyried achos y gofynwr a'r dyledwr yn eu plith eu hunain. A oes dim pechodau gwybodus yn cael eu goddef yn neb heb eu disgyblu yn ol y Gair. A ydyw rheolau y society yn cael eu darllen a'u hystyried? A ydyw yr aelodau oll yn gynorthwy i'r Ysgol Sabbothol? A ydynt o gydwybod yn ufuddhau i'r Llywodraeth; 'toll, i'r hwn y mae toll; ofn, i'r hwn y mae ofn; parch, i'r hwn y mae parch yn ddyledus!' A ydynt yn agweddu yn grefyddol

  1. Y mae diolchgarwch yn ddyledus i Mr. J. Jones, U.H., Corner Shop, Llanfyllin, am roddi caniatad i ddefnyddio cynwys yr hen Gof-lyfr hwn.