Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/535

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrth dalu treth a degwm, heb sarugrwydd a bryntni. I'r diben o gyflawni y gorchwyl crybwylledig, rhanwyd y sir yn bedwar dosbarth."

Yn Nghyfarfod Misol Ffestiniog, Medi, 1818,—"Barnwyd yn angenrheidiol bod ail ymweliad â'r Cymdeithasau, yn gyffelyb fel y gwnaed y flwyddyn o'r blaen. Y mae yn awr angen i ymweled â'r manau sydd wedi eu deffro."

Nid ydyw y brodyr a benodwyd i wneuthur yr ymweliad yn cael eu hysbysu, oddieithr Mr. Gabriel Davies ei hun, a'r hybarch bregethwr Dafydd Cadwaladr, y rhai oeddynt i gymeryd gofal eglwysi Penllyn. Ac un o'r pethau a grybwyllir yn eu hadroddiad hwy am bob eglwys ydyw, hysbysu enwau y blaenoriaid neu y golygwyr oedd ar bob eglwys, ac nid oeddynt ond un neu ddau, fel rheol, ymhob lle. Dengys y dyfyniad uchod fod gwedd Iwydaidd ar yr eglwysi y pryd hwnw. Mae y cyfeiriad a wneir hefyd at amgylchiadau gwasgedig a chyfyng yr aelodau yn eu hamgylchiadau tymhorol, yn cael ei gadarnhau gan y ffaith fod y ddwy flynedd y cymerodd yr ymweliadau crybwylledig le, yn flynyddoedd o galedi mawr ar drigolion y wlad yn gyffredinol. Mae y crybwylliad yn niwedd yr ail baragraff am y manau sydd wedi eu deffro," yn egluro fod y diwygiad mawr, yr hwn a adnabyddid wrth "Ddiwygiad Beddgelert," yn cymeryd lle yn Nghymru yn y flwyddyn 1818.

Ychydig flynyddau yn ol, daeth i feddiant y Parch. Francis Jones, o Abergele, ymysg pentwr o hen lyfrau Cymreig, gofnodiad am ymweliad arall a wnaethpwyd âg eglwysi y rhan yma o'r sir, ac yn garedig anfonodd ef y cofnodiad i fod at wasanaeth yr hanes yn y gyfrol hon. Er nad oes ynddo ryw lawer o wybodaeth, mae ei hynafiaeth yn meddu pwysigrwydd, ac y mae hefyd yn dangos "mor gadarn y cynyddodd Gair yr Arglwydd, ac y cryfhaodd," gan fod yr achosion mor isel y pryd hwnw, yn y manau a nodir. Y brif genadwri gan yr ymwelwyr,