Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/537

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cymeradwyo y genadwri oedd genym atynt yn fawr; ac yn meddwl am fyned ymlaen gyda'r casgliad ar ryw lwybr tebyg i'r llynedd. Y maent yn ychydig iawn o nifer, ac yn ddiepil er's llawer dydd; ac nid heb radd o genfigen ac ymryson rhwng rhai personau, yr hyn sydd yn rhwystr i'w cysur a'u cynydd.

Gwynfryn.—Cawsom lawer o gymorth i ddweyd ein cenadwri yn y lle hwn, a llawer o ddifrifwch yn y cyfeillion wrth ein gwrando. Y mae rhywbeth anghysurus wedi bod rhwng rhai â'u gilydd yno; ond yr oeddym yn cael lle i obeithio ei fod ar wellhau. Gobeithiwn y gwnant gasgliad y flwyddyn hon, er nas gwyddom yn iawn ymha ddull.

Dyffryn.—Nis gwyddom ond ychydig am y lle hwn. Yr oedd y ddau flaenor sydd yn gweithredu fwyaf gyda'r gwaith heb fod yn y cyfarfod. Traethasom ein cenadwri i glywedigaeth hyny oedd yno; ac yr oeddynt yn ymddangos fel pe buasent yn cymeradwyo yn fawr y diben yr oeddym yn cyrchu ato; gan dystio nad oedd dim o bwys mawr yn ofidus yn eu plith, nac mewn diota, nac mewn anghydfod chwaith. Ychydig yw cynydd y gwaith yn y lle hwn. Y maent yn meddwl am gasgliad eleni eto.

Bermo. Ychydig sydd genym i'w ddweyd am y lle hwn, oherwydd yr oeddynt wedi cyhoeddi odfa i bregethu, yn lle cyfarfod neillduol; a thrwy hyny, ni chawsom ddim bron o'u hanes. Ond meddyliem mai isel a digalon ydyw yr achos yn eu plith.

Tachwedd, y flwyddyn 1851, penderfynwyd cael ymweliad drachefn ag eglwysi y pen gorllewinol i'r sir, ac ordeiniwyd y Parchn. E. Morgan, Dyffryn, a Robert Williams, Aberdyfi, i fyned trwy Ddosbarth y Ddwy Afon; a'r Parchn. Richard Humphreys a Daniel Evans i fyned trwy y gweddill o'r cylch. Yn Nghyfarfod Misol Ebrill, y flwyddyn ganlynol, rhoddasant