Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/538

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

adroddiad o'u gwaith, o'r hwn adroddiad y mae y dyfyniadau canlynol wedi eu cadw:—

Penrhyn.—Cystal a disgwyliad—rhai go dda, a'r lleill yn lled anwadal.

Siloam.—Golwg bur gynhesol ar yr achos yn y lle hwn.

Bethel (Tanygrisiau).—Caria y lle hwn y blaen arnom yn y pen yma yn gyffredin; ac un gamp arnynt ydyw, eu bod fel gwlad ac achos yn tyru at dalu am bobpeth wrth ei gael.

Bethesda.—Yn dal i weithio yn dda—yn tynu ymlaen—yn gorphen eu capel yn daclus yn raddol.

Ffestiniog.—Dim yn debyg i'r hen amser. Er eu bod mewn cysylltiad ag eglwys fechan yn daith Sabbath, eto ânt ymlaen yn selog a gweithgar, gan gymeryd y pen trymaf i'r ferfa eu hunain. Anogwyd hwy yma i ddal ati, ac i fynu digon o ddwylaw i drin yr achos arianol.

Maentwrog. Yr helynt fu dan sylw mewn committee yn Nghyfarfod Misol Dolgellau oedd eto yma.

Trawsfynydd.—Golwg lled siriol, ond cwynant yn fawr eu bod yn colli y plant o'r society pan yr ânt tua 16 mlwydd oed, ac yn cael eu gofidio yn fawr oherwydd aniweirdeb.

Abergeirw. Eisiau mwy o gydweithredu.

Llanfachreth.—Dim yn neillduol, heblaw eu bod wedi cael gofid oddiwrth aniweirdeb ac anghyfiawnder.

Carmel.—Golwg pur isel a digalon—y pechod o aniweirdeb yno yn brwydro.

Llanelltyd.—Diffygiol yn nygiad eu plant i fyny, ac mewn cydymgynull ynghyd.

Bontddu.—Cyffelyb.

Abermaw.—Golwg lled siriol, ond byddai yn dda fod yno fwy o undeb a chydweithrediad.

Dyffryn.—Yn rhyw led fywiog, ond cwynir yno oblegid aniweirdeb.

Gwynfryn.—Dirwest yn isel, a'r pechod o aniweirdeb yno