yn fawr. Teimlant lawer o eisiau help arnynt i fyned a'r achos ymlaen.
Harlech.—Yr un plâ yno. Cwynant oherwydd colli cyfeillion oddiyno i fyw, ond y maent yn lled siriol gyda'u gilydd.
Talsarnau—Yn lled siriol a gweithgar—yn meddwl am gallery ar y capel. Eisiau mwy o undeb rhwng yr hen a'r ieuainc yma.
Seion.— Cwyno oherwydd esgeulusiad o foddion gras—rhai yn hynod o ddiog i gyfranu at yr achos trwy y blynyddoeddyn ddirwestwyr bron oll—defnyddir arian y seats at dalu dyled y capel—mae yno rai heb dalu am y seats un amser, ac nid ânt hwy ddim o honynt ychwaith.
Dolgellau.—Cwyno oblegid esgeuluso. Rhai yn ffyddławn iawn mewn cyfranu, a rhai yn fusgrell. Oll yn ffyddlon gyda'r ysgol. Amryw heb fod yn ddirwestwyr. Y rhan allanol o'r achos yn cael ei ddwyn ymlaen yn dda.
Ceir adroddiad am ddosbarth rhwng y Ddwy Afon yn y Gyfrol Gyntaf, tudalen 334. Y mae i'r ymweliad a wnaethpwyd y flwyddyn hon bwysigrwydd mwy na'r cyffredin; oblegid bu hwn yn achlysur i alw sylw arbenig at sefyllfa yr eglwysi gweiniaid, ac arweiniodd hyny yn ganlynol i'r ymdrechion mawrion a wnaethpwyd i osod arolygiaeth weinidogaethol ar yr eglwysi. Yn awr, er's deng mlynedd, neu fwy, pan y cymer ymweliad le, ysgrifenir yr adroddiad ar dafleni pwrpasol, y rhai a drosglwyddir i'w cadw yn ngofal ysgrifenydd y Cyfarfod Misol.
Bum mlynedd ar hugain i'r flwyddyn hon (1890) y gwnaethpwyd y symudiad cyntaf gyda'r Achosion Saesneg yn y rhan Orllewinol o Feirionydd. Ac o hyny hyd yn awr, y mae trefnu ar eu cyfer hwynt wedi bod yn rhan lled bwysig o weithrediadau y Cyfarfod Misol. Ffurfiwyd yr eglwys gyntaf yn Nhowyn. Adeiladwyd y capel Saesneg cyntaf yn y sir yno, yn y flwyddyn 1870; yr oedd cychwyniad yr achos wedi