Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/552

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyda phob rhan o'r gwaith, a'i ymddygiad boneddigaidd ac enillgar gyda y dieithriaid a ymwelent âg Aberdyfi, o wasanaeth mawr y blynyddoedd cyntaf y rhoddwyd cychwyniad i'r achos. Dewiswyd ef yn flaenor yn mis Ionawr, 1887; bu farw yn hynod o sydyn, ganol haf y flwyddyn ganlynol.

MR. RICHARD JONES, SIOP NEWYDD, DOLGELLAU.—Yr oedd efe yn enedigol o Dalsarnau, ac yn fab i'r blaenor parchus, Mr. Morris Jones, Cefngwyn. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Nolgellau, fel un o brif fasnachwyr y dref. Daeth i sefyllfa o bwysigrwydd mawr yn y cysylltiad hwn; enillodd ymddiried gwlad a thref, a bu yn llwyddianus yn ei fasnach. Gwnaeth lawer o wasanaeth, yn wladol, cymdeithasol, a chrefyddol, i'r dref a'r ardaloedd cylchynol. Bu yn llenwi y lleoedd uchaf ymysg ei gyd-drefwyr, ac ni cheid neb mwy defnyddiol a galluocach i gyflawni pob gwaith. Bu yn flaenor am rai blynyddoedd yn eglwys Salem; yn llywydd Cyfarfod Ysgolion Dosbarth Dolgellau dros amser maith; yn llenwi swyddi o ymddiried yn y Cyfarfod Misol a'r Cyfundeb. Gwnelai lawer o wasanaeth i'w gymydogion a'i gyd-ddynion, a hyny gyda'r parodrwydd mwyaf. Yr oedd yr esiampl oreu o ddyn ieuanc yn gweithio â'i holl egni gyda phob peth yr ymaflai ei law ynddo. A'r hyn a goronai y cwbl yn ei hanes ydoedd, ei fod yn ymadael â'r byd hwn mewn tawelwch mawr, ac mewn mwynhad llawn o dangnefedd yr efengyl. Bu farw ar yr 22ain o Chwefror, 1890, yn 47 mlwydd oed.

MR. WILLIAM LEWIS, ABERLLYFENI.—Bu ef mewn cysylltiad â chrefydd er yn ieuanc. Llafuriodd lawer i gyraedd gwybodaeth yn nhymor ei ieuenctid, yr hyn a fu yn sylfaen ei ddefnyddioldeb. Gwasanaethodd y swydd o flaenor eglwysig am tua pum mlynedd ar hugain, yn gyntaf yn Esgairgeiliog, ac wedi hyny yn Aberllyfeni. Treuliodd fywyd gwastad: cadwodd ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd; trwy