Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/553

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymroddiad gyda chrefydd enillodd gymeriad cadarn. Bu farw mewn llawenydd, Hydref 5ed, 1890.

MR. HUGH HUGHES, LLYTHYRDY, PENRHYNDEUDRAETH.— Dygwyd ef i fyny yn yr ardal hon, fel is—athraw yn yr Ysgol Frytanaidd. Daeth cyn hir yn athraw trwyddedig. Wedi bod yn llwyddianus yn y swydd hon am dros bymtheng. mlynedd, ymgymerodd â masnach ar raddfa eang yn ei ardal enedigol. Nodweddid ef fel gŵr unplyg a geirwir, a'i onestrwydd a'i uniondeb uwchlaw cael eu hameu. Yr oedd yn un o flaenoriaid eglwys Gorphwysfa. Safai mewn cymeradwyaeth uchel ymysg ei gymydogion fel gwladwr, crefyddwr, a swyddog eglwysig. Daeth ei yrfa i'r pen yn lled sydyn, y 27ain o fis Tachwedd, 1890, pan nad oedd ond 50 mlwydd oed.

Yn awr, y mae y terfynau a osodwyd i'r gyfrol hon wedi dyfod i'r pen. Nis gellir ymhelaethu heb chwyddo y gwaith yn ormodol, ac mewn canlyniad fyned tuhwnt i'r terfynau gosodedig. Wrth daflu golwg dros yr holl hanes, y mae ynddo addysgiadau lawer, y gallesid ar y diwedd gyfeirio atynt; ond gwell gadael i bawb a'i darlleno dynu y casgliadau a welont hwy yn oreu. Pan ystyriom leied oedd nifer yr eglwysi, a pha mor eiddil oeddynt gan mlynedd yn ol, oni allwn gyda hyder ddweyd fod y broffwydoliaeth wedi ei chyflawni, "Y bychan a fydd yn fil, a'r gwael yn genedl gref." Megis y defnyddiwyd cyrn hyrddod i dynu muriau Jericho i lawr, gwnaeth yr Arglwydd bethau mawrion yn Sir Feirionydd trwy offerynau gwael a distadl. Yn y cyfnod cyntaf, pan y deffrowyd gwahanol ardaloedd y rhan orllewinol o'r sir o'u cysgadrwydd, rhoddwyd cychwyniad i'r achosion crefyddol, bron yn ddieithriad, trwy foddion hynod o ddistadl. Mae y darllenydd wedi sylwi, ond odid, ar y rhan flaenllaw a gymerodd amryw o wragedd crefyddol i beri y cychwyniad cyntaf mewn llawer cymydogaeth. Y gwragedd crefyddol oedd y rhai ffyddlonaf i ddilyn yr Arglwydd Iesu pan ar y