Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Llyfr Actau y Methodistiaid, ac fel y canlyn y mae:—" 1777. Tua'r pryd hwn yr adeiladwyd yr ail gapel yn y wlad hon, sef capel Penrhyndeudraeth. Adeiladwyd y capel hwn mewn adeg isel, ac mewn amseroedd blinion ar grefydd, sef tua'r flwyddyn 1777. Derbyniwyd ugain punt o'r Deheudir. Yr oedd gwrthwynebiad mawr i'r adeilad hwn gael ei godi; holl foneddwyr y gymydogaeth yn gwgu ar yr amcan; a chytunai lliaws mawr o'r werin â hwynt, a da fuasai ganddynt atal y trueiniaid tlodion a berthynai i grefydd yn yr ardal, i fyned rhagddynt gyda'u gorchwyl. Ond hyn ni allasent ei wneuthur; eto llwyddodd y boneddigion i'w rhwystro i gael llechau i'w doi. Yr oedd cloddfeydd Ffestiniog yn agos, a llechau rhagorol yn ymyl, ond ni cheid hwy i doi yr addoldy bychan. Nid oedd o ran ei faint, gallesid meddwl, prin yn werth i neb sylwi arno. Mae'r adeilad eto i fyny, er na ddefnyddir ef er's blynyddoedd bellach i addoli ynddo; a bwthyn bychan isel a gwael yr olwg arno ydyw; ac oni bai ei fwriadu i'r Methodistiaid addoli ynddo, nid edrychasid prin arno, ac ni chawsai boneddwyr y fro wybod dim am dano. Ond yr oedd y dygasedd a lanwai eu mynwesau, yn rhoddi craffder y barcud yn eu llygaid, a chyfrwysder y llwynog yn eu hystrywiau. Fe fu y muriau, pa fodd bynag, am ryw gymaint wedi eu codi, yn sefyll yn noethion heb dô arnynt, gan yr anhawsder a brofid i gael llechau ato. Cawsant ganiatad, wedi peth gohiriad, oddiwrth oruchwyliwr Syr Watkin, i godi cerig i'w doi, os gallasent eu cael o fewn ffiniau a berchenogid gan y boneddwr hwnw. Nid oedd dim bellach i'w wneyd, ond troi allan i chwilio y bryniau a'r cytiroedd a berthynai i Syr Watkin, am gynifer o lechau ag a roddai dô ar gaban o adeilad o ychydig o latheni o hyd ac o led. Cafwyd, pa fodd bynag, ryw fath o lechau, nid cymwys iawn i'r diben; ond eto, y fath yr oedd yn dda eu cael y pryd hwnw. Mae y llechau yn y golwg eto, yn gryn fodfedd o drwch; a rhaid