Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eu bod yn drymion ac afrosgo iawn; ac yn enwedig, pan y cofiom fod yn rhaid eu cludo o'r mynydd ar gefnau ceffylau, ar hyd ffyrdd na allai na chert na char-llusg redeg ar hyd-ddynt. Eto, er pob rhwystr a llafur, gosodwyd to ar yr adeilad; a bu yn lloches ddiddos rhag gwynt a gwlaw, ac oerni a gwres, am lawer o flynyddoedd. Ie, llawer cyfarfod melus a gafwyd ynddo; llawer pregeth wlithog a draddodwyd o dan gysgod y llechau afrosgo, a llanwodd Duw y lle gwael lawer gwaith â gogoniant ei bresenoldeb, nes oedd cnawd yn methu ymgynal dan y lluchedenau tanbaid. Nid oes dafod,' medd fy hysbysydd parchedig, 'a all draethu am werth na rhif y bendithion a dywalltwyd ar ganoedd, o fewn y capel hwnw.'"-Methodistiaeth Cymru. I., 521.

Ni pheidiodd y gwrthwynebwyr a dangos eu gelyniaeth ar ol cael y capel i fyny. Yr oedd gweled pobl dlodion a di-nod wedi llwyddo yn eu hamcan yn flinder ac yn ddolur llygaid iddynt. Edrych arnynt yn addoli ynddo Sabbath ar ol Sabbath, oedd beth na fynent ei wneuthur. Ffromasant yn ddirfawr, galwasant eu gilydd ynghyd, bwriadasant gyngor, a'r cyngor hwnw oedd tynu y capel i lawr. Nid oedd neb tebyg i Gamaliel, i roddi cyngor iddynt i gilio oddiwrth eu bwriad drygionus, a phe rhoddasid y cyngor, ni wrandewsid arno. Yn eu digter, penderfynasant dynu y capel i lawr; "Ond y noson cyn y diwrnod apwyntiedig, bu farw y boneddwr a gymerai y flaenoriaeth yn y gorchwyl yn ddisymwth. Galwyd ef ar ffrwst i'r byd anweledig, ac o flaen Barnwr yr holl ddaear. Parodd yr amgylchiad disyfyd a galarus hwn, ddyryswch ar amcanion y gwyr ag oeddynt yn y cyngrair, a syrthiodd eu cynlluniau oll i'r llawr."

"Gallesid disgwyl," ebe adroddwr yr hanes, "y buasi yr amgylchiad uchod yn ddigon i arafu ysgogiadau y gwrthwynebwyr oll; ac fe fu yn effeithiol i leithio aidd llawer un yn ei ddygasedd rhagllaw, eto nid heb eithriad gofidus. Hysbysir i