Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i gael tamaid o fwyd i'r llefarwyr a ddelent heibio ar eu teithiau, mewn coffa yn y wlad hyd y dydd hwn. Un o'r cyfryw ydyw yr hanesyn hynod a ganlyn:—

"Yr oedd cyhoeddiad gwr o'r Deheudir i fod unwaith yn nghapel y Penrhyn am ddeg o'r gloch y boreu. Nid yw tystiolaethau yn cytuno pwy ydoedd gyda sicrwydd, ond ei fod naill ai Mr. Llwyd, o Henllan, neu Mr. Jones, Llangan. Yr oedd rhyw fusgrellni wedi bod ar law rhywun ynghylch darpar tamaid o fwyd i'r gŵr dieithr; neu ynte yr oedd y gair am ei ddyfodiad wedi cyraedd y lle yn rhy ddiweddar i wneuthur y ddarpariaeth a dybid yn angenrheidiol. Tebygol ydyw mai lled ddirybudd oedd cyhoeddiad y gŵr. Parodd hyn brofedigaeth lem i Catherine Griffith, gan nad oedd ganddi o fewn y tŷ ond ychydig o fara lled dywyll ac ymenyn; yr oedd ei phrofedigaeth yn fwy am fod y gŵr a ddisgwylid yn ŵr bonheddig, o sefyllfa a dygiad i fyny gwahanol i lawer o'r cynghorwyr bychain adnabyddus iddi. Gwyddai Catherine yn dda pa mor ddefnyddiol ydoedd gweddi mewn amgylchiad o ddyryswch a chyfyngder; a chan mor gynefin ydoedd â'r gwaith hwn yn ngwahanol amgylchiadau ei hoes, defnyddiai yr un moddion y tro hwn; a gofynai i'r Brenin mawr ei hanrhegu hi ag ychydig arian i arlwy yr hyn a dybiai yn weddus i'r gŵr dieithr yn giniaw. Hi a wnaeth hyn oddiar y syniad fod y Goruchaf wedi gwneuthur pethau cyffelyb dan ryw amgylchiadau o'r blaen; ond er iddi weddio, nid oedd yn dyfod yn y ffordd a dorasai hi allan. Ond pan yr oedd ar fedr myned i'w gwely y noswaith cyn yr odfa, clywodd drwst mawr yn y capel, y fath ag a barodd iddi fyned yno yn ebrwydd. Pa beth a welai ar ei dyfodiad ond aderyn mawr yn ehedeg o gwmpas yn y capel, ac yn ymguro eilwaith yn erbyn y ffenestri. Daliwyd yr aderyn, ac wele cyffylog ydoedd. Parotowyd ef yn giniaw i'r gŵr dieithr; yr hwn a synai gael y fath ddanteithfwyd mewn lle mor dlawd, a bu raid i'r hen wraig adrodd iddo yr holl