Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hanes, er mawr syndod i'r pregethwr. Mae amryw yn fyw eto [1850], a glywodd y chwedl gan Catherine Griffith ei hun, am eirwiredd yr hon ni chafwyd lle i ameu."—Methodistiaeth Cymru. I., 523. Dywed yr awdwr parchedig fod yr hanesyn uchod wedi disgyn i'w law ef mewn dull a thrwy foddion nad oedd dim amheuaeth yn ei feddwl o barthed ei gywirdeb. Ceir yn mhellach yr hyn a ganlyn wedi ei ysgrifenu gan y Parch. John Hughes ar waelod yr un tudalen,—"Mewn ysgrif ddiweddarach, dywedir mai Mr. Jones, o Langan, oedd y gŵr, ac mai yn ddisymwth y daeth i ymofyn llety yn nhŷ Catherine Griffith, ar ei ffordd i Sir Gaernarfon. Dywedir hefyd ei fod wedi cyraedd y lle, ac eisoes yn anedd y wraig dlawd pan y canfu hi yr aderyn, a phan ei gwelodd yn ehedeg o bared bwy gilydd yn y capel, iddi waeddi arno, Beth yw hwn Mr. Jones? a'i fod ef yn cynorthwyo i'w ddal, ac mai i swper y noson hono y bwytawyd ef. 'A mynych (medd yr hanes) y coffai yr hen batriarch o Langan am swper gwyrthiol yr hen Gatherine Griffith o'r Penrhyn.""

Adroddir ffaith arall mewn amser diweddarach, i ddangos yr ysbryd rhagorol oedd wedi meddianu y wraig hon. Dywedodd Robert Dafydd, Brynengan, wrthi rywbryd pan ar ymweliad â'r Penrhyn, ar ol dechreuad yr Ysgol Sabbothol, onid âi hi i'r ysgol i ddysgu darllen y Beibl, yr edrychai ef ar hyny fel diffyg gras ynddi, ac y deuai ef i'r Penrhyn i'w diarddel o'r gymdeithas eglwysig! Ufuddhaodd y wraig i hyn hefyd yn ewyllysgar, er ei bod oddeutu 80 mlwydd oed, oblegid nid oedd dim yn ormod ganddi ei wneyd mewn henaint yn gystal ag yn hoewder ei nerth, i hyrwyddo yr achos mawr yn ei flaen. "Yr wyf yn cofio ei gweled," meddai yr hwn a anfonai yr hanes i'r Parch. John Hughes, "yn yr Ysgol Sul, yn ei llyfr A. B. C., dechreu dysgu pan yn 80 mlwydd oed. Ac yr oedd yn darllen yn ganolig, yn y Testament Newydd, cyn pen blwyddyn wedi dechreu."