Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nid priodol ydyw terfynu y benod hon heb wneuthur crybwylliad am flaenoriaid cyntaf y Penrhyn, a'r modd y gosodwyd hwy yn y swydd, neu yn hytrach, y modd yr ymgymerasant hwy eu hunain â'r swydd. Ar ol dyfodiad Mr. Charles i fyw i'r sir, tua 1785, yr amcanwyd gyda dim math o drefn a rheol i osod blaenoriaid ar yr eglwysi. Ond yr oeddynt yn y Penrhyn wedi anturio i ymgymeryd â'r gorchwyl hwn rai blynyddau yn flaenorol i hyny, heb na rheol na threfn. Yr oedd eu hanwybodaeth a'u hanfedrusrwydd gyda'r cyfryw orchwyl, o angenrheidrwydd, yn fawr. Ond at eu plentynrwydd y mae genym ni yn yr oes hon le i synu fwyaf,—

"Gwelwn y cyfryw blentynrwydd," medd yr hanes, "ymysg hen grefyddwyr y Penrhyn, mewn amgylchiad arall. Aeth dau frawd unwaith o'r Penrhyn i Frynengan, yn Sir Gaernarfon, i'r cyfarfod eglwysig. Yr oedd crefydd yno wedi gwreiddio yn ddyfnach, ac wedi ymeangu yn fwy nag oedd yn nghartref y ddau frawd. Cychwynasai yn foreuach yn Brynengan, a chyraeddasai y gymdeithas yno fwy o drefn a chysondeb wrth fyned a'r achos crefyddol ymlaen. Gyda gradd o syndod y deallai y ddau frawd o'r Penrhyn fod yn Mrynengan ryw swyddwyr yn yr eglwys na wyddent hwy gartref ddim am danynt; urdd o ddynion a elwid blaenoriaid. Yr oedd hyn yn ddarganfyddiad newydd iawn i'r ddau frawd dieithr, a theimlent yn y fan yn awyddus i gael y cyffelyb swyddwyr yn eu cartref. Ar eu dychweliad, achubasant y cyfle cyntaf i osod gerbron y ddiadell fechan yr hyn a welsent yn Brynengan, a'r angenrheidrwydd iddynt hwythau gael yr un fath swyddwyr. Gan na wyddai y bobl yn y byd pwy a feddylid wrth yr enw blaenoriaid, na pha beth a ddisgwylid oddiwrthynt, naturiol oedd iddynt ymofyn am eglurhad, yn enwedig gan y canfuant fod y ddau frawd yn gosod pwys mawr ar y peth, ac yn prysuro i'w gael i ben. Gofynent, gan hyny, pa fath oedd y swydd hon i fod? Pa beth oedd ei gwaith,—