Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac o ba fuddioldeb a fyddai? Ni ellid rhoddi nemawr o eglurhad i'r gofynion caledion hyn, yn unig ail ddywedid na fyddai yr achos yn y Penrhyn ddim yn gyflawn heb eu cael, ac mai swydd gyffelyb i swydd Overseer y tlodion ydoedd. Nid oedd yr awgrym yma ar natur y swydd, yn tueddu mewn un modd i enyn serch tuag ati, gan y gwyddent oll mai swydd ddigysur a di-elw iawn oedd swydd Overseer y tlodion; ac ni allwn feddwl y teimlai pawb radd o betrusder i ymgymeryd â hi. Ond gan y rhoddid ar ddeall iddynt ei bod yn dra angenrheidiol, ac na fyddent yn gyflawn eu trefniadau yn y Penrhyn hebddi, cododd un brawd i fyny, a chan gyfarch brawd arall a ddywedodd, Mi fentra i y swydd, os mentri dithau.' 'Gwnaf,' ebe y llall, 'am flwyddyn, deued a ddelo.' Dywedir mai John Prichard, Hafod-y-mynydd, oedd un o'r ddau a fentrodd y swydd; 'a dyma,' meddai yr hysbysydd, y blaenoriaid cyntaf a fu erioed yn y Penrhyn, os nad hefyd y rhai goreu.'"—Methodistiaeth Cymru, I., 525.