Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD V.

PENCEARGO A GELLIGWAIL.

CYNWYSIAD.—Desgrifiad o'r ddau fwthyn—Yn gyffelyb i fynydd Ebal a mynydd Garizim—Y cyfarfod eglwysig cyntaf yn Gelli gwiail—Dafydd Siôn James yn dyfod i'r seiat—Imraniad eglwysig yn cael ei gyfanu trwy orfoledd.

 AU fwthyn bychan ydyw Pencaergô a Gelligwiail, yn ardal y Penrhyn; erbyn hyn bron wedi myned i ebargofiant. Ar gyfrif yr hyn a gymerodd le ynddynt yn nghychwyniad Methodistiaeth yn yr ardal, yn unig, y dygir eu henwau i sylw yma. Ychydig o grybwyllion a geir am danynt, ac mae yr ychydig hyny yn gyd-blethedig â'r hanes a roddwyd yn y benod flaenorol; ond ni buasai mor hawdd deall yr hanes, heb roddi peth eglurhad ar y ddau fwthyn, a'r amgylchiadau cysylltiedig â hwy. Nid oes neb yn byw yn y naill na'r llall yn awr, ond y maent wedi eu gadael yn furddynod gwag, yn sefyll arnynt eu hunain, megis yn y distaw-fyd, heb yr un bod dynol byth yn cyrchu tuag atynt. Erys hen dy Gelligwiail ar ei draed hyd y dydd heddyw, a golwg hynafol, oedranus arno; wedi ei adeiladu wrth dalcen bryn bychan, fel pe yn bwrpasol er mwyn i'r bryn dori awch gwynt y gorllewin; y to eto heb syrthio i mewn iddo; gyda dau gorn simdda, un ar bob talcen, top y rhai y gall gŵr gweddol dal yn awr ei gyraedd a'i law. Y mae y tŷ i'w weled i'r teithiwr, wrth fyned i fyny gyda'r gerbydres, o Borthmadog