Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

na'u bod yn perthyn i'r gymdeithas eglwysig a gyfarfyddent ynddo. Pobl wledig a thlodion oedd y crefyddwyr oll. Un eithriad a allasai fod yn wahanol, sef Mrs. Llwyd, o'r Tyddynisaf, ond mae yn dra thebyg mai ar ol hyn yr ymunodd hi a chrefydd. O berthynas i'w cywirdeb a'u huniondeb, nid oes le i amheuaeth. Ond yr oeddynt yn dra anwybodus ac anfedrus yn y ffordd o gario achos crefydd ymlaen. Nis gallasent fod yn amgen, gan nad oeddynt wedi cael manteision i wybod y nesaf peth i ddim am hyny o drefniadau a feddai y Methodistiaid y pryd hwnw, ac nid oedd neb yn y cyffiniau i'w cyfarwyddo. Oddiwrth eu dull o ddwyn eu cyfarfodydd ymlaen, prin y gellid meddwl fod gweddusrwydd priodol addoliad crefyddol yn eu mysg, a phrin y gellid meddwl weithiau fod eu cynulliadau yn wir addoliad o gwbl. Wedi dyfod ynghyd i'r hen dŷ y rhoddwyd desgrifiad o hon, eisteddent o amgylch y tân, gan ymddiddan â'u gilydd yn rhydd a dirodres, fel y gwnaent ar achlysuron cyffredin eraill, "a rhai o honynt ar y pryd a sugnent y bibell, ac a chwifient y myglus, heb edrych ar hyny yn un trosedd ar weddeidd-dra a threfn." Yn y dull hwn yr oeddynt yn yr hen anedd ddiaddurn pan y daeth Dafydd Siôn James atynt yn ddirybudd, i gymell ei hun i fod yn aelod yn eu mysg. Mae yr adroddiad canlynol am yr amgylchiad hwnw wedi ei ysgrifenu, yr ydym yn tybio, gan ei fab ei hun,-

"Un tro, pan oeddynt wedi ymgyfarfod yn y modd yma, daeth atynt ŵr a adwaenent yn dda, ond un na fuasai gyda hwynt yn eu cyfarfodydd neillduol erioed o'r blaen. Yr oedd yn syn ganddynt ei weled, a pharod oeddynt i dybied naill ai fod ganddo ryw amcan gau, neu ynte ei fod wedi camsynied am natur y cynulliad. Am hyny, ar ei ddyfodiad i mewn, aeth gŵr y tŷ ag ef i ystafell arall o'r neilldu, er mwyn rhoddi hysbysiad iddo mai cyfarfod eglwysig oedd ganddynt; neu ynte, os oedd hyny yn adnabyddus iddo, i ymofyn âg ef