Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pa beth a'i cymhellasai i ddyfod atynt. Wedi cael boddlonrwydd yn yr ymddiddan, dychwelodd at ei frodyr, ac yn llawen iawn a ddywedodd, 'A wyddoch chwi beth, mae Dafydd Siôn James wedi rhoi ei enw i lawr y mynyd hwn.' Felly, debygid, y byddent yn derbyn aelod newydd i mewn, trwy iddo roddi ei enw i lawr, fel y gwneir yn bresenol gyda dirwest."— Methodistiaeth Cymru, I., 499.

Cyfarfyddodd yr achos yn y Penrhyn â llawer tro, er y pryd yr oedd y gymdeithas eglwysig yn cyfarfod yn Gelligwiail, hyd y wedd gysurus a llwyddianus sydd arno yn awr. Er i'r Arglwydd, o bryd i bryd, ymweled â'i bobl yn nhrefn ei ras, a pheri bod eu nifer yn cael ei ychwanegu, deuai pethau blinion drachefn i'w cyfarfod. Gwelodd yr eglwys hon dymhorau gauafaidd ac amseroedd o iselder mawr. Eto ni bu yr Arglwydd, o'r dechreuad yn yr hen dŷ gwael, mynyddig, hyd y pryd hwn, heb rai yn ei geisio. Nid oes dim lladd yn bod, fel y dywedodd rhyw un, ar achos crefydd. Parhaodd y berth i losgi yn dân yma, er pob ystormydd a gwyntoedd croesion, am fod yr Arglwydd ei hun yn nghanol y berth. Diffodd a wnaethai y tân, a darfod yn llwyr, oni bai y gofal a fu am dano gan yr Hwn y dywedir am dano, "Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd." Mewn amseroedd diweddarach bu cwerylon ac ymrafaelion lawer yn y Penrhyn, yn gymaint felly ag y bu raid anfon cenad ar ol cenad dros Gyfarfod Misol y sir, i geisio ei heddychu. Ond unwaith, yn unig, hyd y mae yn wybyddus, y cymerodd ymraniad le yn eu plith, a hyny yn yr hen dy bychan, Gelligwiail. Nid yw yn hysbys pa beth fu yr achos o'r ymraniad, yn unig dywedir iddo gymeryd lle mewn canlyniad i ddadl a gyfododd yn eu plith, ac i'r ddadl hono gyfodi o rywbeth bychan. Fel y canlyn yr adroddir am yr helynt hwn:—

"Unwaith fe gyfododd dadl yn eu plith, ac y mae yn bur debyg mai am rywbeth bychan yr oedd; oblegid am bethau