Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bychain yn gyffredin y mae dadl ymysg brodyr. Aeth y ddadl, pa fodd bynag, mor boeth ag i beri ymraniad yn eu plith. Arosodd un blaid yn Gelligwiail, a chiliodd y blaid arall i dŷ yn y gymydogaeth, o'r enw Pencaergô; a chyfarfyddai y pleidiau yn y ddau dŷ yr un noswaith. Fel yr oedd rhai o'r aelodau yn dychwelyd adref ryw noson o'r Gelligwiail, o gyfarfod eglwysig, clywent swn canu a molianu yn Mhencaergo. Ar hyn, gwaeddai un o honynt yn ddisymwth, 'Holo! Pencaergô a'i pia hi—rhaid mai hwy sydd yn eu lle,- dowch ynо, dowch yno.' Ac yno yn y fan yr aethant, gan ymuno eilwaith â'u gilydd, ac ni bu yno ymraniad mwy."- Methodistiaeth Cymru, I. 501.

Mor syml a chywir ydoedd yr hen grefyddwyr cyntaf, hyd yn nod pan y methent gydweled a'u gilydd. Bron nad ellir dweyd mai da oedd i'r ymraniad hwn gymeryd lle, er mwyn i'r oes bresenol a'r oes a ddel weled mor ebrwydd, a chyda moddion mor onest y cyfanwyd yr ymraniad.