Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD VI.

HANES YR EGLWYSI.

CYNWYSIAD.—Nazareth—Pant—Minffordd—Gorphwysfa—Llan Ffestiniog—Bethesda—Tanygrisiau—Trawsfynydd—Cumprysor —Eden—Maentwrog Uchaf—Llenyrch—Maentwrog Isaf—Llanfrothen—Croesor—Rhiw—Tabernacl—Garegddu—Engedi—Bowydd—Eglwys Saesneg Blaenau Ffestiniog.

Hyd yma, rhoddwyd bras-ddarluniad o agwedd trigolion y parthau hyn yn y cyfnod a ragflaenai y Diwygiad Methodistaidd, ynghyd a'r modd y cymerodd y cyfnewidiad le trwy ymweliad grasol o eiddo yr Arglwydd a'r wlad yn niwedd y ganrif ddiweddaf. Bellach, amcenir dangos dechreuad a chynydd crefydd yn yr eglwysi, o'u sefydliad hyd yr adeg bresenol. Cyfleir hwy, mewn rhan, yn ol eu trefn amseryddol, ac mewn rhan, fel yr oedd y naill eglwys yn ymganghenu o'r llall.

PENRHYN (NAZARETH).

 HODDWYD eisoes hanes helaeth am ddechreuad yr achos yn Mhenrhyndeudraeth, yn y bedwaredd benod. Gwelwyd, oddiwrth y ffeithiau a'r hanesion sydd ar gael, fod Methodistiaeth wedi dechreu yn yr ardal hon yn gynt nag un man arall yn Ngorllewin Meirionydd, oddieithr Pandy-y-Ddwyryd. Dyma y lle y gwreiddiodd yr achos, ac y daeth pethau i drefn gyntaf o'r holl eglwysi. Adeiladwyd capel yma yn 1777, deng mlynedd yn gynt na Dolgellau. Ceir crybwylliad am flaenoriaid yr eglwys hon o flaen pob eglwys arall. Nid ydyw yr hanes a roddwyd, pa