Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fodd bynag, yn cyraedd ond yn brin i lawr i ddechreu y ganrif hon. Amcenir yn awr roddi crynhodeb o hanes eglwys Nazareth hyd yn bresenol.

Saif yr hen gapel, yr hwn a gyrhaeddodd y fath enwogrwydd hanesyddol, o fewn ergyd careg i Nazareth, ar y llaw chwith wrth fyned i fyny ato o waelod yr ardal. Mae y muriau, a rhan o'r tô, yn aros eto, oddieithr hyny, y mae wedi myned yn gwbl adfeiliedig. Daeth peth cymorth o'r Dehendir tuag at ei adeiladu. Yr unig symiau a welsom wedi dyfod o Gymdeithasfa y Gogledd ydoedd, 1p. yn 1782, a thrachefn o Sasiwn y Bala, yn 1783, 1p. 10s. Mae bychander y symiau hyn yn profi mai bychan a diaddurn oedd y capel. Nid oedd ond math o gaban, gyda muriau diogel o'i amgylch, a thô clyd uwch ei ben. Cofia un chwaer sydd yn awr yn fyw (Miss Ellin Jones, Tanygrisiau) ei mam yn ei chario i'r cyfarfod eglwysig yn y capel hwn, ac yn ei rhoddi i eistedd ar dwr o frigau gleision mewn cwr o'r neilldu ynddo. Yn y dydd y cedwid y seiat bob amser; ac os deuid a phlant yno, byddai raid eu cuddio ymysg brigau gleision neu yn rhywle arall. Defnyddiwyd yr hen gapel hwn hyd y flwyddyn 1815, pryd yr adeiladwyd capel newydd, mewn lle newydd, sef Bethel, yr hwn a elwid gan yr ardalwyr y capel canol. Ar doriad allan y diwygiad dirwestol, cynyddodd yr Ysgol Sul a'r gynulleidfa yn fawr, fel y bu raid adeiladu capel helaethach eto, yr hyn a wnaed yn y lle y mae y capel presenol, ac agorwyd ef Mehefin 8fed, 1839. Oherwydd fod y brwdaniaeth gyda dirwest mor gryf, galwyd y capel yn Nazareth, gan fod bron yr oll o'r trigolion wedi dyfod, neu yn penderfynu dyfod, yn Nazareaid.

Yr oedd Nazareth, pan yr adeiladwyd ef gyntaf, yn cynwys (er heb ddim gallery) lle i 300 i eistedd yn yr eisteddleoedd. Yr oedd yn un o dri chapel mawr yn y sir y perid cryn lawer o bryder ynghylch eu dyled, sef Trawsfynydd, Ffestiniog, a'r