Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD I'R AIL GYFROL.

——————

NID oes angenrheidrwydd am wneuthur ond ychydig iawn o sylwadau ar orpheniad yr Ail Gyfrol. Y nod y cyrchid ato wrth ei hysgrifenu ydoedd casglu ynghyd hanes gweddill eglwysi y cylch, o'r dechreuad hyd yn awr, a'i osod mewn trefn, goreu gellid, fel y byddo i wybodaeth am waith yr Arglwydd, ac am weithgarwch yr hen grefyddwyr, gael ei gadw mewn coffadwriaeth. O ran cynwys, hyderir fod yr hyn a geir yma rywbeth yn gyffelyb i gynwys y Gyfrol a'i rhagflaenodd.

Oherwydd fod llawer o'r eglwysi yn y rhanbarth hwn yn eglwysi lled newyddion, ofnid y buasai yr hanes yn myned i fesur yn unffurf; ac yr oedd graddau o anhawsder i'w gadw rhag iddo fyned felly, gan mai pethau tebyg oedd i'w hadrodd am bob eglwys fel eu gilydd. Eto, y mae nifer o eglwysi yn Nosbarth y Dyffryn, ac amryw hefyd yn ardaloedd Ffestiniog, ymysg y rhai hynaf yn y sir, ac y mae hanes crefyddol cyntaf ein gwlad oll yn llawn o ddyddordeb. Rhwng pobpeth, llwyddwyd tuhwnt i ddisgwyliad i ddyfod o hyd i hanesion nid ychydig am yr amser gynt, llawer o honynt na welsant oleuni dydd erioed o'r blaen, a daeth y defnyddiau, hen a newydd, i law mewn cyflawnder dibrin.

Gelwir hon hefyd, yn gystal a'r gyntaf, yn Gyfrol Can'mlwyddiant; yn un peth, am mai cynhaliad Gwyl y Can'mlwyddiant, yn 1885, fu yn achlysur i'r hanes gael ei ysgrifenu; heblaw hyny, oddeutu can' mlynedd i'r amser presenol y rhoddwyd cychwyniad i lawer o achosion crefydd yn Sir Feirionydd -nid oedd ond ychydig o eglwysi wedi eu planu yn flaenorol i 1785.

Afreidiol, yn ddiau, ydyw crybwyll ddarfodi'r gwaith beri llafur mawr i'r Awdwr. Y rhan fwyaf arafaidd o'r gorchwyl ydoedd casglu y defnyddiau, a chael allan i sicrwydd beth oedd gywir, a pha beth oedd yn anghywir. Aethpwyd i bedwar cwr byd i geisio y defnyddiau. Chwiliwyd cynifer o hen lyfrau yr eglwysi ag oedd wedi dianc rhag rhaib y llygod, a rhag cael eu bwyta a'u difa gan y gwyfyn a'r rhwd." A defnyddiwyd yn helaeth o'r hyn oedd eisoes wedi ei groniclo am yr hen dadau gynt,