Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Derbyniwyd yr hanes am yr eglwysi a ffurfiwyd ddiweddaraf trwy law, a than gyfarwyddyd swyddogion y lleoedd, ac am lawer o'r cyfryw, anfonwyd yr ysgrifau i bersonau cyfarwydd â'r ffeithiau i edrych drostynt cyn eu rhoddi yn y wasg. Y mae diolchgarwch cynes yn ddyledus i frodyr lawer yn y gwahanol ardaloedd a roddasant gynorthwy i gasglu yr hanes ynghyd. Yr oedd yn y cynllun, o'r dechreu, fwriad i wneuthur crybwylliad, o leiaf, am yr holl swyddogion, yn bregethwyr a blaenoriaid, yn gystal a cheisio dangos y modd y llwyddodd ac y cynyddodd yr eglwysi yn gyffredinol. Ond, gan mai hanes Methodistiaeth, ac nid personau, a ysgrifenid, dywedai rheswm nas gellid bod yn faith gyda'r un rhai. Rhesymol, hefyd, oedd rhoddi lle amlycach a helaethach i'r personau a fuont, oherwydd eu talentau a'u hymroddiad, o wasanaeth arbenig i gyfodi crefydd yn y wlad. Os aethpwyd heibio i rywrai heb eu crybwyll, bu hyny o ddiffyg gwybodaeth am danynt; ac os ceir yma gamwedd o unrhyw natur, camwedd ydyw hollol anfwriadol.

Dichon y bydd rhywrai yn gweled mewn rhanau o'r hanes fesur o ail-adroddiad. Ni bu hyny o gwbl ond yn unig gyda'r amcan o wneuthur yr holl gysylltiadau mor eglur a dealladwy ag oedd bosibl. Y mae pawb a ysgrifena hanes gydag eglurdeb yn gwybod fod graddau o hyn yn angenrheidiol.

Fel rheol, ni fwriedid ysgrifenu coffadwriaeth am neb ond y rhai a orphenasant eu llafur ac a gyraeddasant yr orphwysfa. Yr eithriadau a wnaethpwyd ydoedd, personau wedi bod am flynyddoedd maith yn y gwasanaeth, ac wedi gwneuthur gwaith mawr yn eu hoes, er eu bod "yn aros hyd y dydd hwn."

Y mae amddiffyn vr Arglwydd wedi bod yn fawr dros eglwysi y saint, yn Ngorllewin Meirionydd, yn ystod y pum' ugain mlynedd hyn. Bu pethau chwerwon mewn manau, mae'n wir, anghydfod, cwerylon, a phethau yn ymylu ar ymraniadau. Ond er mwyn heddwch i goffadwriaeth yr hen bererinion, barnwyd yn well myned heibio y cyfryw bethau mor ddistaw ag y gellid.

Ceir cyfran o'r Gyfrol hon wedi ei neillduo i roddi crynhodeb o hanes y Cyfarfod Misol, ynghyd â'i weithrediadau. O'r blaen, ychydig o wybodaeth am hyn oedd yn ysgrifenedig yn unman. Hyderir hefyd y bydd y Mynegair i'r holl hanes, a welir ar y diwedd, o ryw gymaint o fantais i'r darllenydd mewn amser i ddyfod.

Bellach, pan y mae y gwaith wedi ei ddwyn i derfyniad, fy nymuniad cywir ydyw, ar i'r Llyfr Coffadwriaeth hwn fod o fendith i bawb a'i darlleno.

R. O.

Pennal,
Rhagfyr, 1890.