Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Disgynodd yr arweiniad wedi hyn ar Mr. John Davies, Pentrwyn-y-garnedd, er nad oedd ond ieuanc ar y pryd. Cyfarfyddwn âg enw y gŵr hwn yn fynych, fel un a fu yn dra gwasanaethgar i'r achos ymhob cysylltiad. Erbyn 1831, rhifai yr ysgol dros ddau gant. Ceir ychwaneg o'i hanes gan Mr. David Evans, Brynhyfryd, yn ei Adroddiad gyda chyfrifon yr Ysgolion am 1867, ac yn Nhraethawd Can'mlwyddiant Mr. David Richard, Penlan.

Y mae cyfarfod pregethu blynyddol yn cael ei gynal yn Nazareth, yn mis Mehefin, yr hwn yr edrychir arno fel sefydliad arhosol, a'r hwn yn lled debyg yw yr hynaf o'r cyfryw yn Nghymru. Dechreuwyd ei gadw, fel y tybir, gan y fintai a elai o Sir Gaernarfon i Gymdeithasfa y Bala. Cymerid mantais o'r achlysur o fynediad y pregethwyr a'r tyrfaoedd trwodd, i'w gadw ar yr adeg hono o'r flwyddyn. Yn hanes mintai a elai o'r Waenfawr i'r Bala, yn y flwyddyn 1806, ceir y cofnodiad canlynol am danynt yn galw heibio yma ar eu ffordd, "Aethom o'r lle hwn (Beddgelert) i'r Penrhyndeudraeth, lle yr oedd cyfarfod pregethu ddydd Llun am ddeg a dau o'r gloch. Yr oedd yma liaws mawr o ddieithriaid, heblaw nyni, wedi dyfod o Eifionydd a Lleyn, a'r athrawiaeth yn hynod nerthol a llewyrchus, a llawer yn tori allan ar y diwedd i ganmol Duw ac i orfoleddu." Yr oedd hyn yn yr hen gapel cyntaf, yr hwn sydd yn awr yn furddyn. Rywbryd wedi i Mr. John Davies symud i fyw i Borthmadog, yr hyn oedd heb fod ymhell o'r amser y diddymwyd Sasiwn flynyddol y Bala, meddyliodd rhywrai am ddiddymu y cyfarfod dechreu yr haf, fel y gelwir ef yn yr ardal, a dygwyd cynygiad ymlaen yn gyhoeddus na byddai yr un cyfarfod o'r fath mwyach. Ond cyfododd W. Ellis, yr hen flaenor selog, ar ei draed a dywedodd, "Mi fydd yma gyfarfod dechreu haf eto yn ei amser, can sicred i chwi a bod craig yn y Briwat."[1] Aeth yr hen

  1. Lle creigiog ar lan y môr.