Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

flaenor ar ei godiad boreu dranoeth i Borthmadog at John Davies, a dywedai wrtho, "Rhaid i ti ddyfod acw, nos Fercher nesaf, mae nhw wedi gwneyd i ffwrdd a'n hen gyfarfod ni am byth, wel di." "O'r goreu, mi a ddeuaf acw," ebe John Davies. Felly fu, a thrwy ei ddylanwad ef, penderfynwyd iddo gael ei gynal fel cynt. Ac mae y cyfarfod blynyddol hwn wedi ei gadw ar ddechreu haf yn ddifwlch, oddieithr un flwyddyn, sef adeg adgyweiriad y capel, er's 112 o flynyddoedd.

Megis y crybwyllwyd, yr oedd y sel a'r brwdfrydedd gyda Dirwest yma, ar doriad allan y Diwygiad, yn gryfach nag odid fan yn y wlad. Fel hyn y dywedir yn Y Diwygiad Dirwestol, gan y Parch. J. Thomas, D.D., Liverpool, tudalen 95:— "Tachwedd 28ain (1836), cynhaliwyd cyfarfod yn Mhenrhyndeudraeth, pryd yr areithiodd y Parchn. R. Humphreys, Dyffryn, a D. Charles, B.A., Bala, ac ardystiodd 215. Parhaodd i gynyddu, fel erbyn Llun y Pasg, 1838, pan gadwyd gwyl nodedig, yr oedd eu rhif yn 900, pan nad oedd rhif y trigolion ond 1000; ac yr oedd rhif y tafarnau wedi eu tynu i lawer o chwech i ddwy, ac nid oedd elw y cyfryw ond bychan iawn."

Yn hanes eglwys hynafol y Penrhyn, ceir lliaws o engreifftiau o hen gymeriadau tra hynod, ac esiamplau nid ychydig o ddull nodweddiadol yr hen Fethodistiaid o gario yr achos ymlaen, ac yn neillduol eu ffordd blaen, ddirodres, a didderbynwyneb gyda'r ddisgyblaeth eglwysig. Mae enw Catherine Griffith yn adnabyddus, fel un o wragedd hynotaf yr oes o'r blaen. Parhaodd hi i "gadw tŷ capel" yn hir, a pharhaodd yn isel ei hamgylchiadau hefyd ar hyd ei oes. Byddai cynifer o bregethwyr yn galw heibio y Penrhyn yn ei hoes hi, fel y gosodid hi dan orfodaeth yn fynych i redeg i dŷ cymydog i ymofyn benthyg torth ac ymenyn, ac arferai y cymydog hwnw ddweyd y byddai y dorth a'r ymenyn yn d'od