Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ol heb fyn'd ddim llai. Daeth John Elias heibio unwaith ar ddamwain, a Chatherine Griffith a ddywedai, "Wel, John bach, beth a wnaf fi? 'does gen i ddim byd ellwch chwi fwyta." "Catherine bach," ebe yntau, "oes genych chwi ddim bara ceirch?" "Oes." "Wel, nid oes dim yn well gen i na shot." Perthynai amryw o hen grefyddwyr Llanfrothen i'r eglwys hon yn yr amser cyntaf, am y rhai y crybwyllir ynglyn â'r eglwys yno. O'r ddwy neu dair sydd eto yn fyw, ac yn cofio addoli yn yr hen gapel, un ydyw Alice Llwyd, yn awr o Borthmadog, yr hon sydd yn Fethodist o'r Methodistiaid, a'r hon fu yn cerdded i Sasiwn y Bala yn ddigoll am ryw gymaint dros ugain mlynedd. Eisteddai hi pan yn ddeg oed, o'r tuallan i'r Hen Gapel yn disgwyl ei nain o'r seiat. Daeth Ellin Thomas, Lluudain, sef gwraig Dafydd Siôn James, allan a gwelodd hi yno, ac wedi deall ei neges, dywedodd, "Dylaset tithau fod yn y seiat," a dyna y tro cyntaf iddi feddwl am ymuno, a glynodd y gair yn ei meddwl nes cael ei hun yn aelod.

Yr oedd yr Ellin Thomas uchod yn sefyll a'i phwys a'r glawdd mynwent Nazareth un tro, yn nghwmni hen ferch grefyddol iawn, o'r enw Siân Thomas, tra yr oedd claddedigaeth dyn pur annuwiol yn cymeryd lle, ac meddai, "Yn eno dyn, y mae nhw yn hel pob siort i'r fan yma." "Na hidia, Neli bach," meddai y llall, "fe gawn ni godi o'u blaen nhw." Hen ŵr hynod grefyddol oedd John Pritchard, Hafodymynydd. Yr oedd pregethwr o'r Deheudir yn yr hen gapel (bernir mai Edward Goslett ydoedd), ar ddiwrnod gwaith; a'i destyn neu ei fater ydoedd, "Yr arch yn ol y portread," a chafodd odfa anarferol, llawer yn gorfoleddu, ac yn eu mysg yr hen ŵr a enwyd. Ar ei ffordd adref, gwelodd Iwdn dafad iddo yn un o erddi y gymydogaeth, daliodd a rhwymodd ef, a chariodd ef tuag adref ar ei gefn. Ond llawer gwaith cyn cyraedd adref yr oedd yn myned i hwyl, ac yn rhoddi y llwdn