Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn mhenod y bedwaredd. E. H. oedd yr agosaf atynt. Bu ef yn flaenor uwchlaw haner can' mlynedd. Bu farw Mai 14, 1832, yn 89 mlwydd oed. Yr oedd yn y swydd ymhen blwyddyn neu ddwy ar ol adeiladu y capel cyntaf. Treuliodd ddechreu ei oes mewn oferedd, a rhyw bum' mlynedd cyn ei osod yn flaenor y daethai at grefydd. Y noson yr aeth i'r seiat at yr ychydig grefyddwyr, dechreuodd erledigaeth chwerw arno oddiwrth ei deulu ei hun. Ei wraig, wedi iddo gyraedd adref oedd yn wylo o ddigllonedd, gan waeddi yn ei wyneb, "ei fod wedi ei gadael hi am byth, ac mai hyny oedd ei unig ddiben pan feddyliodd am fyned i'r fath le; ïe, ei fod wedi anmharchu ei hun am byth." Un o'i ferched hefyd a ddywedodd "y buasai yn well ganddi ei fod yn euog o ladrata, fel y buasai raid ei garcharu, i'r diben o'i rwystro i'r seiat anmharchus!" Dengys hyn mor gryf ydoedd erledigaeth yn y Penrhyn yn ei amser ef. Ond enillwyd ei deulu at grefydd yn fuan, a bu Ellis Humphreys yn flaenor llafurus a hynod o barchus. Ei air cyffredin pan yr elai i'r llawr i ofyn profiad yn y cyfarfod eglwysig ydoedd, "Wyt ti mewn rhyfel â dy lygredigaethau?"

ROBERT ELLIS.

Daeth at grefydd yn ugain oed, a bu yn flaenor am yr un tymor âg Ellis Humphreys. Yntau a fu farw ymhen chwech wythnos ar ol ei gyd-filwr, sef Mehefin 24, 1832, yn 77 mlwydd oed. Yr oedd ef yn ŵr pwyllog, yn meddu barn dda, a dylanwad mawr. Efe oedd yr hwn a roddodd yr atebiad cyrhaeddgar ynghylch cariad brawdol yn y Penrhyn. Gofynai pregethwr am yr achos yn y lle, "Oes yma gariad brawdol yn eich plith chwi?" "Oes," ebai Robert Ellis, "mae yma barseli o hono," gan olygu fod yr eglwys wedi myned yn llawer o ranau—rhan fan yma a rhan fan acw yn caru eu gilydd, ac heb garu neb arall. Efe fyddai yn myned i'r Cymanfaoedd a'r Cyfarfodydd Misol i ymofyn cyhoeddiadau, ac efe oedd