Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bngail yr eglwys, i rybuddio yr afreolus, ac i ddiddanu y gwan eu meddwl. Y ddau flaenor hyn oeddynt wroniaid gyda'r achos yn eu hoes.

ROBERT WILLIAMS, HENDREHENYD,

Oedd wr da a chrefyddol, a blaenor ffyddlon. Bu o wasanaeth mawr i achos crefydd dros ei oes. Ni chafwyd yr amser y bu ef yn y swydd.

JOHN PETER, MINFFORDD.

Ni bu ef yn y swydd yn hir.

WILLIAM ELLIS, TYUCHAF.

Bu farw Chwefror 22ain, 1858, yn 79 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor am 26 mlynedd. Yr oedd yn llawn sêl gyda phob achos da, yn arbenig Dirwest, a chyfarfodydd gweddi; rhagorai ar lawer am gael pob trefniadau, a phobpeth yr achos yn eu hamser ac mewn trefn. Cyfrifid ef yn flaenor o radd dda.

GRIFFITH PARRY, TYCEFN.

Bu farw Medi 14eg, 1858, yn 66 mlwydd oed, yntau hefyd wedi bod yn flaenor am 26 mlynedd. Dyn penderfynol, dirodres, a phlaen, yn cymeryd pwyll gyda materion eglwysig, ac yn bur sicr o siarad i bwrpas ar bob mater. Gŵr mawr yn Israel oedd efe. Bu y ddau hyn, a ddewiswyd gyda'u gilydd, ac a fuont feirw yr un flwyddyn, yn cyd-dynu yn rhagorol gyda'r achos am dymor maith.

JOHN DAVIES, PORTHMADOG.

Bu farw Mehefin 8fed, 1855, yn 53 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor am 23 mlynedd. Symudodd ef i Borthmadog yn 1843, ond arferai dros rai blynyddoedd ddyfod yma i'r cyfarfod eglwysig, gan y teimlai ymlyniad mawr wrth yr achos yn y lle. Daeth yn golofn dan yr achos pan yn ddyn lled ieuanc.