Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwnaeth wasanaeth mawr gyda'r Ysgol Sul, a chyda chyfrifon, a holl drefniadau yr eglwys. Yr oedd yn ŵr hynod o ddeheuig gyda phob peth. Efe oedd man of business yr eglwys, a bu colled fawr ar ei ol.

THOMAS PRITCHARD.

Bu farw Chwefror 15fed, 1866, yn 66 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor am 18 mlynedd. Goruchwyliwr oedd efe ar ffordd haiarn Ffestiniog a Phorthmadog, ac yr oedd yn meddu. cymhwysderau arbenig i arolygu y gwaith yn ei holl gysylltiadau. Meddai gymeriad disglaer, a safai yn uchel yn nghyfrif pawb a'i hadwaenai, fel Cristion ac fel swyddog eglwysig. Trwy ei gywirdeb a'i symlrwydd, enillodd ymddiried a pharch yn yr eglwys. Mab iddo ef ydyw Mr. T. Lloyd Pritchard, Brithwernydd.

Derbyniwyd pedwar eraill yr un adeg a'r diweddaf, yn Nghyfarfod Misol Rhagfyr, 1848.--Evan Lloyd, yr hwn oedd yn dra defnyddiol, ac yn llawn bywyd a gweithgarwch gyda'r achos yma, hyd nes y symudodd i Minffordd, pan sefydlwyd eglwys yno. David Williams, yr hwn sydd er's blynyddoedd wedi ymadael i'r Eglwys Sefydledig. A Thomas Jones, Penygraig, a Henry Owen (yn awr yn station master), a ddewiswyd yn flaenoriaid y môr, fel eu gelwid, oblegid capteniaid oedd y ddau.

JOHN WILLIAMS, YSGOLFEISTR.

A ddewiswyd yn flaenor yn 1859. Symudodd yn 1864 i Borthmadog, ac oddiyno i Dremadog, lle hefyd yr oedd yn swyddog. Bu farw yn 1885. Brawd ydoedd ef i'r Parch. David Williams, Tremadog.

DANIEL ROWLANDS.

A ddewiswyd yn 1862. Bu yn y swydd am 18 mlynedd. Ymadawodd â'r byd Mawrth 5ed, 1880, yn 82 mlwydd oed. Dyn plaen, a chrefyddwr cydwybodol, yn tueddu yn ei ddull