Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

at arferion yr hen bobl. Yn y diwygiad, ugain mlynedd cyn ei farw, cafodd ei drwytho mewn crefydd, yn enwedig mewn ysbryd gweddi.

ELLIS ROBERTS.

Yr oedd efe yn swyddog yn Bethania, Beddgelert, i ddechreu. Symudodd i'r Penrhyn i fyw, a dewiswyd ef yn swyddog yn Nazareth yn 1880. Parhaodd yn ei swydd hyd ei farwolaeth yn nechreu 1888. Yr oedd yn ŵr rhadlawn, yn Gristion da, ac yn swyddog ffyddlawn.

ROBERT WILLIAMS.

Neillduwyd ef yn flaenor Tachwedd, 1885; bu farw Mai 31ain, 1890. Yr oedd yn ddyn cywir, gonest, a chydwybodol yn ei holl gysylltiadau; yn ddarllenwr cyson, ac yn ŵr o farn. Dioddefodd gystudd yn dawel, a bu farw yn hyderus. Bu yma eraill yn gwasanaethu y swydd, ond a symudasant yn ystod eu bywyd, o ba rai y mae amryw yn fyw eto. Mr. Hugh Jones, Bryngwilym, a ddewiswyd yn flaenor yn 1866, ac a fu o wasanaeth mawr i'r achos am dros ugain mlynedd, hyd oni symudodd o'r ardal i fyw. Robert Williams, Bryntirion, a ddewiswyd yr un adeg, ac a symudodd i Minffordd. John Williams, High Street, yr hwn a symudodd gyda'r eglwys i Gorphwysfa. Mr. Hughes, Post Office, hefyd a symudodd i Gorphwysfa. Mri. O. Owen, a H. J. Hughes a symudasant o Dalsarnau yn 1873, ac a ddewiswyd yn swyddogion yma yr un flwyddyn. Ymadawsant hwythau hefyd, gyda'r eglwys i Gorphwysfa.

Y blaenoriaid yn awr ydynt-Mri. Henry Owen, T. Lloyd Pritchard (er 1880), a Thomas Williams (er 1885).

Y PARCH. DANIEL EVANS.

Y mae enw Daniel Evans wedi bod yn hysbys yn Sir Feirionydd, er yn gynar yn y ganrif bresenol. Gweddus, gan hyny, ydyw rhoddi braslinelliad o'i hanes mewn cysylltiad â'r