Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eglwys y bu yn ei gwasanaethu mor hir. Brodor ydoedd o Langower, ger y Bala. Ganwyd ef Awst 20fed, 1788. Yr oodd ei rieni yn aelodau eglwysig gyda'r Annibynwyr. Ond trwy ryw gysylltiad neu gilydd, ymunodd ef âg eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn y Bala, pan yn un ar bymtheg oed. Yn yr ugeinfed flwyddyn o'i oedran, dechreuodd gadw ysgol o dan Mr. Charles, a thrwy ei arolygiaeth ef. Wedi bod yn myned ar gylch gyda'r gorchwyl hwnw, yn y flwyddyn 1813 y daeth gyntaf i Penrhyndeudraeth i gadw ysgol. Bu ei lafur yn fendithiol iawn gyda'r plant. Enillodd eu serch yn gymaint, fel yr oeddynt oll yn wylo wrth iddo ymadael, ac aeth yntau i wylo i'w canlyn: ac mewn dagrau y torwyd yr ysgol i fyny. Yn y Penrhyn y dechreuodd bregethu, yn y flwyddyn 1814, a hyny yn bur ddiseremoni. Un nos Sabbath, wedi iddo ef fyned i'r cyfarfod gweddi, daeth y ddau hen flaenor, Ellis Humphreys a Robert Ellis, ato, a dywedasant,- "Mae yn rhaid i ti bregethu i ni heno, Daniel." Cafodd gryn dipyn o hwyl y tro cyntaf, a thorodd allan yn orfoledd. Ar y diwedd, cyfododd Ellis Humphreys i gyhoeddi, a'r peth cyntaf a ddywedodd oedd, "Bydd Daniel yn pregethu yma eto y Sabbath nesaf." Yr oedd yn dda iawn ganddo, yn ol ei dystiolaeth ei hun, glywed yr hen flaenor yn ei gyhoeddi. Bu yn ddiwyd ar hyd yr wythnos yn parotoi; ac erbyn nos Sadwrn, yr oedd yn tybio fod y bregeth wedi ei gorphen. Wedi cymeryd ei destyn y tro hwn, modd bynag, a gwneuthur ychydig o ragymadrodd, collodd y cyfan, ac aeth yn hollol dywyll arno, ac nid oedd dim i'w wneyd ond gofyn gyda llais crynedig i'r blaenoriaid enwi rhai o'r brodyr i fyned i weddi. Aeth yntau yn syth o'r capel i'w wely. "Dyna y tro mwyaf bendithiol i mi," arferai ddweyd, "o holl ddigwyddiadau fy mywyd." Bu am dymor byr yn yr Ysgol yn Ngwrecsam, gyda y Parch. John Hughes, yr un adeg & Dafydd Rolant, y Bala. Ar ol hyny aeth i'r Dyffryn i gadw ysgol yr ail waith. Tra