Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yno y tro hwn aeth i'r stad briodasol, a Mr. Humphreys oedd ei was priodas. Trwy ei briodas aeth i drigianu i Benycerig, ger Harlech, ac ymhen amser i dŷ y capel yn yr un lle. Ac wrth yr enw Daniel Evans, Harlech, yr adnabyddid ef fynychaf yn ystod ei fywyd. Symudodd oddiyno i'r Penrhyn, i gadw shop; ac yma y treuliodd yr ugain mlynedd olaf ei oes. Yn yr hen lyfrau gwelir fod rhyw fath o gysylltiad rhyngddo â'r eglwys yma ryw ddeng mlynedd cyn ei farw, gan ei fod yn derbyn swm bychan o gydnabyddiaeth am ei lafur. Treuliodd lawer o fore a chanol ei oes gyda Chyfarfodydd Ysgolion Dosbarth y Dyffryn. O 1840 i 1846 bu yn ysgrifenydd Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd. Safai yn uchel yn y sir fel gŵr tra chrefyddol, pwyllog, a doeth, ac yr oedd yn anwyl iawn gan y saint yn gyffredinol. Bu yn dilyn ac yn lled flaenllaw gyda phrif symudiadau yr achos ar hyd ei fywyd. Nid oedd yn nerthol na grymus yn ei weinidogaeth. Yn hytrach, arafaidd a thyner fyddai yn wastadol, fel y gwlith, ac nid fel y gwlaw mawr. Bu yn llesg a methedig yn niwedd ei oes. Yn yr adeg hon yr oedd ar brydiau yn llwfr ac ofnus. Un diwrnod dywedai wrth ei briod, "Mae arnaf ofn fy nghrefydd, Margaret fach; ac yr wyf yn ofni mai yn uffern y byddaf wedi'r cwbl." Trodd ei briod arno, a dywedodd mewn tôn geryddol, "Sut na bae arnoch chwi gywilydd, Daniel Evans, wedi crefydda ar hyd eich oes, ac yn y diwedd yn ofni eich crefydd Hen weinidog fel chwi yn ofni nad oes genych ddim crefydd, ac mai i uffern yr ewch! I uffern yn wir ! beth a wnewch chwi yn y fan hono? Pe baech chwi yn myn'd yno, mi'ch ciciai rhyw gythraul chwi oddiyno yn bur fuan, 'rwy'n siwr o hyny." Gwnaeth y wers hon les iddo. Bu yr hen weinidog farw mewn tangnefedd. Ar ei fedd-faen, o flaen capel Nazareth, mae yr hyn a ganlyn yn gerfiedig,- "Er côf am y Parch. Daniel Evans, Penrhyn, yr hwn a fu farw Tachwedd 7, 1868, yn 80 mlwydd oed."