Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

drigolion roddi eu presenoldeb yn nghapeli eraill y gymydogaeth, ond fe sefydlwyd Ysgol Sul yma i ddechreu er mwyn y bobl, ac yn fwyaf arbenig y plant a esgeulusent bob moddion o ras, amcan mewn rhan, y parheir i gario yr achos ymlaen trwy y ac i'r un blynyddoedd.

Mewn tŷ yn agos i'r Griffin y dechreuwyd yr Ysgol sydd yn awr yn y Pant. Aeth wedi hyny i Dyrnpike Caerfali, lle y preswyliai William Ismael, yr hwn a fu yn dra defnyddiol gyda hi. Ymhen ychydig symudwyd hi oddiyma, a chafwyd caniatad gan Morris Nanney a'i briod i'w chynal yn ffermdy Trwyn-y-garnedd, yr oedd ar y pryd gryn nifer o bobl yn byw yn Mhen Trwyn-y-garnedd, gan fod llawer o waith yn cael ei gario ymlaen gyda'r cychod ar yr afon. Oddiyno drachefn daeth i'r Pant, o gylch y flwyddyn 1849. Cynhelid hi yn Llofft y Tŷ Talcen, am yr hon y telid 1p. 10s. yn y flwyddyn. Cyn hyn yr oedd y trigolion yn nodedig am eu hesgeulusdra o foddion gras. "Yr oedd y Sabbath yn mhell o gael ei dreulio yn gyfaddas gan y rhieni; ond am y plant, yr ydoedd yn eu golwg hwy yn gwbl yr un fath a diwrnod arall—yn cael ei ddefnyddio o foreu hyd y nos i ddilyn y gamp a'r chwareuyddiaeth yn ddiwarafun. Ofer ydoedd cymell y naill na'r llall i ddyfod i'r moddion yn y capelau. Yr oedd eu tlodi yn rhwystro iddynt feddianu y wisg a ddymunent gael, a'u balchder yn eu hatal i ddefnyddio yr hyn oedd ganddynt, i ymddangos ymysg eu cymydogion. Oherwydd hyn, yr oedd yn canlyn yn naturiol fod y plant yn tyfu i fyny yn anwybodus, yn ddrygionus, ac anwaraidd."[1] Yr hyn fu yn achlysur uniongyrchol i gychwyn ysgol yn y Pant, oedd i foneddwr o ymddangosiad boneddigaidd ddyfod trwy ardal y Penrhyn mewn cerbyd, yn y flwyddyn a grybwyllwyd, ac yn ol eu harfer, rhedai plant y Pant ar ol cerbyd y boneddwr.

  1. Drysorfa, Chwefror 1857; tudal. 63.