Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cymerodd yntau sylw o honynt, ac aeth at Mr. John Williams, yr ysgolfeistr, i wneuthur ymholiad a oedd ysgol ddyddiol, neu. Ragged School yn y gymydogaeth. Atebodd John Williams. fod dwy ysgol ddyddiol yn yr ardal, ond fod rhieni y plant mor dlodion nas gallent hyfforddio i roddi addysg iddynt. Mewn canlyniad i'r ymddiddan hwn, gwahoddwyd y gwahanol enwadau crefyddol ynghyd i ymgynghori beth ellid wneyd, a'r penderfyniad y daethpwyd iddo oedd cychwyn Ysgol Sul yn y Pant, a bod i frodyr oddiwrth y gwahanol enwadau fyned yno i'w chario ymlaen. Ond ni buont yn cydweithio gyda'u gilydd ond am ychydig Sabbothau; gadawyd yr achos yn hollol i ofal y Methodistiaid Calfinaidd. Y Sabbath cyntaf yr agorwyd yr ysgol, cafwyd 40 o aelodau i fewn, ac yn fuan yr oedd y nifer wedi cynyddu i 80. Dewiswyd John Jones, Hendrehenyd, yn arweinydd yr ysgol, a gweinyddodd ei swydd gyda ffyddlondeb mawr. Bu Edward Williams, Brynbach, hefyd yn ymdrechgar a llwyddianus i gael y plant i'r ysgol. Elai o amgylch dan ganu i'w gwahodd, ac ymunent hwythau yn orymdaith ag ef, rhai o'u tai, a rhai oddiwrth eu chwareuon, fel y llenwid yr ystafell gan arabiaid bychain, Sabbath ar ol Sabbath. Bu Samuel Holland, Ysw., diweddar A.S., dros Feirionydd, yn gefnogydd i'r ysgol hon trwy gyfranu tuag at ei chynal. A chyfranodd Cadben John Evans, Bwlchgoleu, lawer o lyfrau at wasanaeth yr ysgol. William Ellis, Tŷ-uchaf, hefyd fu yn hynod ymdrechgar o'i phlaid.

Ar ddiwedd yr ysgol, yn enwedig yn y tymor hâf, byddid yn arfer myned allan o'r tai lle y cynhelid hi, ac yn cyfarfod yn yr awyr agored, a'r holwr yn myned i ben y clawdd i holwyddori, a'r ysgolheigion o'i amgylch yn ateb, nes tynu sylw neillduol yr holl ardal. Wrth weled yr ysgol yn cynyddu ac yn myned yn llawer mwy na llon'd y tai lle y cynhelid hi, penderfynwyd cael ysgoldy i'w chynal. Dygwyd hyn oddiamgylch trwy wneuthur casgliad yn Ysgolion Sabbothol