Dosbarth Ffestiniog tuag at ddwyn y draul. Gwnaed y casgliad cyntaf o 3p. 6s. yn Bethesda. Agorwyd yr ysgoldy ddydd Nadolig 1856. Yn ystod y dydd cyfarfyddodd deiliaid yr ysgol i gyd-yfed tê, ac yn yr hwyr pregethwyd gan y Parch. Daniel Evans. Yr oedd y pryd hwn ynghylch 200 yn ei dilyn yn gyson, a chynyrchodd yr amgylchiad adfywiad cyffredinol gyda'r Ysgol Sul trwy yr ardal oll. Y prif ysgogydd gyda'r symudiad oedd Edward Williams, y crybwyllwyd am dano eisoes. Ar ei dir ef, yn gyfranog â rhyw frawd arall, yr adeiladwyd yr ysgoldy, ac nid oedd terfyn ar ei sel a'i ymdrech gyda'r achos yn y lle. Proffwydai er's amser y byddai capel ac achos yn y Pant, yr hyn hefyd a ddaeth i ben. Gorphenaf 1867, yr ydym yn cael fod y tir yn cael ei gyflwyno i'r Cyfundeb gan Mri. Holland ac E. Williams, am bum' swllt ar hugain, a'r weithred yn cael ei chyflwyno i'r gist haiarn yn Nolgellau.
Am y deng mlynedd cyntaf ar ol adeiladu yr ysgoldy, defnyddid ef yn unig, neu o leiaf yn benaf, at wasanaeth yr Ysgol Sul, a pherthynai yr aelodau oedd yn byw yn y gymydogaeth i eglwys Nazareth. Ond yn 1867 ffurfiwyd yma eglwys reolaidd. Yn Nghofnodion Cyfarfod Misol Trawsfynydd, mis Medi y flwyddyn hono, cawn yr hanes a'r penderfyniad canlynol,—"Daeth cenadwri o'r Penrhyn yn hysbysu fod yr eglwys yno, wrth ystyried sefyllfa bresenol yr achos yn y lle, yn barnu mai doethach fyddai i'r achos yn y Pant (capel mewn cysylltiad â'r Penrhyn) gael ei sefydlu yn eglwys, ac i foddion rheolaidd gael eu cynal yno. Wedi gwrando ar adroddiad y cyfeillion, yr oedd y Cyfarfod Misol yn cyd-olygu â hwy, ac yn barod i gydsynio â'r cais, ar yr amod i William Jones a Henry Owen, y rhai sydd yn flaenoriaid yn y Penrhyn, fyned o hyn allan i'r Pant, yn flaenoriaid yr eglwys yno. Penodwyd y Parchn. Robert Parry ac Owen Jones, B.A., i fyned yno gyda golwg ar hyn." Ar y cyntaf yr oedd