Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr eglwys mewn cysylltiad â Nazareth, ac yn cael pregeth ddau o'r gloch. Yn niwedd 1870, trefnwyd y Pant a Minffordd yn daith Sabbothol. Am rhyw dair blynedd a haner y parhaodd y cysylltiad hwn, oblegid yn nghanol y flwyddyn 1874 aeth y ddau le yn ddwy daith. Ar hyn o bryd, oherwydd gwendid a bychander y nifer, mae y Pant eto yn daith gyda Nazareth, ac ambell i Sabbath yn cael pregethwr trwy y dydd ei hunan. Pan sefydlwyd yr eglwys yma yn 1867, rhifai y gwrandawyr 206, yr Ysgol Sul 200, y cymunwyr 39.

Gŵr oedd William Jones, y cyfeirir ato yn y penderfyniad a grybwyllwyd, a ddaethai i fyw yma o Namor, Beddgelert, a chan fod ei breswylfod yn nghymydogaeth y Pant, a chanddo dai yno o'i eiddo ei hun, anogwyd ef i flaenori yn y gangen eglwys newydd, yr hyn hefyd a wnaeth. Ac efe oedd blaenor cyntaf y Pant. Oherwydd rhyw amgylchiadau, nid aeth Henry Owen yno fel y penodasid. Bu W. Jones yn ffyddlawn gyda'r achos tra parhaodd yn y gymydogaeth. Ond cyn hir dychwelodd yn ol i Sir Gaernarfon, ac y mae, er's amser bellach, wedi myned oddiwrth ei waith, fel yr hyderir, i fwynhau ei wobr. Oddeutu canol y flwyddyn 1868 neillduwyd Hugh Williams, Pencaergô, yn flaenor; ac ar ol ymadawiad W. Jones i Sir Gaernarfon, bu dros beth amser yn unig flaenor yr eglwys. Symudodd yntau o'r Pant, ac y mae yn awr yn flaenor yn Gorphwysfa.

HUGH OWEN.

Symudodd y gŵr da hwn i fyw i'r Penrhyn o Maethlon. Yn mis Mai 1872, neillduwyd ef yn flaenor ar eglwys y Pant. Yr oedd ef yn flaenor o ddylanwad yn ei gylch cartrefol, a meddai gymhwysder arbenig i fod yn y swydd yn y lle hwn. Bu yn gwasanaethu y swydd yn anrhydeddus am flynyddoedd cyn symud yma. Bu farw yn orfoleddus yn 1875. Rhoddwyd hanes cyflawn am dano eisoes (Cyf. I., tudal. 310).