Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Davies, Richmond Terrace, Liverpool; y diweddar Mr. M. W. Humphreys, Garston.

Yn y gyfrol nesaf y gwneir defnydd o'r hyn a gafwyd gan amryw o'r cyfeillion a enwir uchod. Hyderaf yn fawr na adawyd enw neb allan drwy amryfusedd a ddylasai fod i mewn.

Paratodd Miss Gwendoline Tucker, Oakdale Road, Liver- pool, yr holl lawysgrif yn drefnus a gofalus ar gyfer yr Argraff- wyr, a theimlaf yn dra rhwymedig iddi am ei llafur mawr.

Diolchaf hefyd i'm chwaer, a'm cynorthwyodd mewn llawer modd.

Gwelir nad oes ddarluniau yn y gyfrol. Bu'r Pwyllgor i'r hwn yr ymddiriedwyd y gwaith o'i chyhoeddi yn petruso cryn lawer ynglŷn â hyn. Nid oes amheuaeth na buasai darluniau o'r hen gapeli, a'r hen weinidogion a blaenoriaid, yn ychwanegu fawr at ei diddordeb. Ond gyda chynifer o gapeli, a chynifer o arweinwyr, yr anhawster ydoedd gwneud detholiad; a phe cyhoeddasid y cwbl buasai'r draul yn ychwanegu yn sylweddol at bris y llyfr.

Mewn perthynas i gwestiwn yr Orgraff, ceisiais, hyd yr oedd ynnof, ddilyn cyfarwyddiadau Llawlyfr "Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru;" ond ofnaf imi ballu mewn llawer o bethau, megis y gwna pawb oll. Gwn mai "ym Mhel Mel" ac nid yn Pall Mall," "ym Mirmingham ac nid "yn Birmingham " a ddylaswn ysgrifennu; ond rywfodd anodd ydyw gennyf ddygymod â'r ffurfiau hyn. Gwelir imi yn y dyfyniadau a geir yn y llyfr gadw yr orgraff wreiddiol, a diddorol ydyw sylwi heddiw y fath amrywiaeth a geir yn sillafiaeth y dyfyniadau hyn.

Ni bum ofalus iawn gyda'r teitlau "Parch." a "Mr." o flaen enwau gweinidogion ac eraill. Nid yw eu dodi i mewn yn awgrymu mwy o barch i neb, na'u gadael allan yn awgrymu llai. Ymgadwyd rhag gwneuthur unrhyw sylwadau, cymeradwyol neu arall, ar frodyr sydd yn fyw pan ysgrifennir yr Hanes. Gwn y teimla rhai y dylaswn fod wedi dywedyd llawer mwy am frodyr oedd amlwg yn yr eglwysi y blynyddoedd diwethaf. Ni roddais ragor nag enw rhai y gallesid dweud llawer am danynt. Ceisiais ddweud yn lled helaeth am yr hen frodyr, na wyr y cyffredin ddim o'u hanes heddiw; ond